19 Mai 2026
Ddydd Mercher, 13 Mai, cynhaliodd BIP Caerdydd a'r Fro Gynhadledd Nyrsio a Bydwreigiaeth 2026, i ddathlu'r gwaith anhygoel y mae ein cydweithwyr yn ei wneud bob dydd o fewn y Bwrdd Iechyd.
Roedd yn bleser gweld dros 350 o nyrsys yn y gynhadledd gyda llawer mwy yn gwylio'r darllediad byw. Cefnogwyd y digwyddiad gan gydweithwyr gweithredol a wnaeth sylwadau cadarnhaol ar y gwaith trawsnewidiol ac arloesol sy’n cael ei wneud gan staff nyrsio bob dydd i wella gofal cleifion yng Nghaerdydd a'r Fro. Roedd y cyffro a’r hwyl yn yr ystafell yn amlwg ac roedd yn wych gweld yr ymrwymiad a’r angerdd a ddangoswyd gan nyrsys dros y proffesiwn y maent yn falch o fod yn rhan ohono.
Nyrsio a bydwreigiaeth yw'r gweithlu proffesiynol mwyaf yn y sefydliad hwn a nhw yw'r bobl y mae cleifion yn ymddiried fwyaf ynddynt. Mae cydweithwyr ar draws ysbytai acíwt, gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, iechyd meddwl, mamolaeth, gofal arbenigol ac integredig, yn darparu gofal rhagorol bob dydd - yn aml mewn amgylcheddau cymhleth dan bwysau.
Clywsom gan ein Prif Weithredwr, Suzanne Rankin, a wnaeth ymrwymiad i gydweithwyr ar ran y tîm arwain yng Nghaerdydd a'r Fro, i barhau i sicrhau bod nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Gwnaeth Bejoy Sebastian, Llywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol ein hatgoffa, er ei bod hi’n gyfnod anodd, fod cydweithwyr yn gryf, a’u bod yn gallu ymateb i’r sefyllfaoedd heriol.
Siaradodd Rhiannon Jones, Dirprwy Brif Swyddog Nyrsio Cymru, am sut y gwnaeth Florence Nightingale chwyldroi’r byd nyrsio, a sut y dylem ni i gyd gael ein grymuso i wneud yr un peth ac ysgogi newid.
Siaradodd cydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd am eu profiad gyda Sefydliad Florence Nightingale (FNF), menter fyd-eang sy'n helpu i ddatblygu a chefnogi nyrsys a bydwragedd i fod yn arweinwyr y dyfodol.
Ar y diwrnod hwn, fe wnaethom hefyd lansio'r Cynllun Strategol Nyrsio a Bydwreigiaeth, fframwaith clir ac uchelgeisiol i gefnogi cydweithwyr dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn darparu eglurder o ran cyfeiriad, safonau cyson a fframwaith proffesiynol cryf ar gyfer nyrsys a bydwragedd. Mae'n atgyfnerthu pwysigrwydd hanfodion gofal, arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol, a llais proffesiynol a hyderus mewn penderfyniadau.
Amy Dowden, sy'n fwyaf adnabyddus am fod ar y sioe deledu Strictly Come Dancing ar BBC One, a gyflwynodd y seremoni wobrwyo ar y diwrnod, gyda gwobrau hefyd yn cael eu rhoi i gydweithwyr am y posteri a oedd yn arddangos eu gwaith a oedd i'w gweld o gwmpas yr ystafell.
Yn olaf, hoffem ddiolch i'n cydweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth. Pan fyddwn yn gwrando ar gleifion, maen nhw'n dweud wrthym yn gyson eu bod nhw'n gwerthfawrogi nyrsys, bydwragedd, a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n bwyllog ac yn galonogol, sy'n dangos caredigrwydd ac empathi, sy'n gwrando heb farnu, ac sy'n siarad dros anghenion cleifion.
Mae nyrsio yn fwy na phroffesiwn; mae'n rôl hollbwysig o ran diogelwch, gydag ymrwymiad i dosturi, rhagoriaeth a gofal diwyro i'n cleifion a'n cymunedau. Bob dydd, rydych chi'n llwyddo i ddangos sgil, gwydnwch a charedigrwydd eithriadol, yn aml yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.
Diolchwn i bawb am eu cyfranogiad ar y diwrnod.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.