27 Mawrth 2024
Mae’r erthygl hon yn fersiwn symlach o Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir 2024.
Ond efallai y bydd angen cymorth arnoch i’w darllen o hyd. Gofynnwch i rywun rydych chi’n ei adnabod i’ch helpu chi.
----
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir.
Mae interniaeth a gefnogir yn ffordd o astudio sy’n eich helpu i gael swydd.
Gydag interniaeth a gefnogir, rydych chi’n dysgu’n bennaf tra’n gwneud y swydd.
Mae llawer o bobl ifanc ag anghenion ychwanegol eisiau cael swydd.
Gall fod yn anodd iddynt gael swydd pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Mae interniaethau a gefnogir yn helpu i roi profiad gwaith i bobl.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws cael swydd yn y dyfodol.
Dyna pam mae interniaethau a gefnogir yn bwysig.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro opsiynau ar gyfer interniaethau a gefnogir.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi helpu 32 o bobl ifanc gydag interniaeth a gefnogir.
Mae 13 o bobl ifanc yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dilyn eu hinterniaeth a gefnogir.
Mae interniaeth a gefnogir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnwys:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal interniaethau a gefnogir gyda chymorth:
Mae angen i bobl ifanc sy’n dymuno ymuno ag interniaeth a gefnogir siarad â’u hathro.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn gyflogwr cynhwysol.
____________
Geiriau anodd:
Mae cynhwysol yn golygu nad oes neb yn cael ei adael allan oherwydd pwy ydyn nhw.