18 Awst 2026
Bob pythefnos, mae'r Orthodontydd Ymgynghorol Sheelagh Rogers yn camu'n ôl o'i gwaith clinigol yn sythu dannedd ar gyfer yr hyn y mae'n ei alw'n "ddiwrnod Greta". Gan gyfeirio at yr ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg, mae Sheelagh yn hyrwyddo arferion lleihau gwastraff a gostwng allyriadau carbon yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yng Nghaerdydd ochr yn ochr â Nagham, Darlithydd ac Arweinydd Cynaliadwyedd yr Ysgol Ddeintyddiaeth.
Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol wedi'i integreiddio'n agos ag Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, gyda'r ddau sefydliad wedi'u lleoli yn yr un adeilad. Gyda'i gilydd mae Sheelagh a Nagham wedi arwain rhaglen o fentrau cynaliadwyedd sydd bellach yn dylanwadu ar bopeth o ddarparu gwasanaethau a phrosiectau ymchwil myfyrwyr i ailgylchu a chaffael.
Dywedodd Beverly Withers, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae cynaliadwyedd bellach wedi’i ymgorffori ym mhopeth a wnawn. Ym mhob penderfyniad a wnawn, mae cynaliadwyedd bellach yn flaenllaw.”
Y llynedd, cymerodd Sheelagh a Nagham ran yn Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan. Defnyddion nhw ddull 'Am WASTRAFF' y Comisiwn, sy'n helpu timau i nodi aneffeithlonrwydd drwy edrych ar y Gweithlu, Gweinyddiaeth, Gwasanaethau, Triniaethau, Defnydd Ynni a Systemau.
Un o'r meysydd cyntaf y gwnaethon nhw ganolbwyntio arno oedd y gweithlu. O fewn y theatr lawfeddygol ddeintyddol, roedd triniaethau cleifion, ar brydiau, yn cael eu canslo oherwydd nad oedd nyrs sgryb ar gael. Drwy uwchsgilio nyrsys deintyddol i ennill cymwyseddau nyrs sgryb lleihaodd yr ysbyty achosion o ganslo apwyntiadau gan greu cyfleoedd datblygu gwerthfawr i staff.
Nododd y rhaglen hefyd gyfleoedd i leihau gwastraff mewn ymarfer bob dydd, megis pecyn offer deintyddol a oedd yn cael ei lapio ddwywaith mewn papur yn rheolaidd er nad oedd gofyniad clinigol i wneud hynny. Drwy leihau'r lapio i un haen, arbedodd yr ysbyty fwy na £1,500 mewn blwyddyn gan leihau gwastraff drwy gydol y broses.
Mae rhai o'r syniadau mwyaf effeithiol wedi dod gan staff rheng flaen. Pan wnaethon nhw redeg allan o dywelion papur yn yr Ysbyty Deintyddol, cwestiynodd y swyddog cynnal a chadw, David Kehone, pam roedd eu hangen o gwbl pan oedd sychwyr dwylo eisoes ar gael. Yn dilyn trafodaethau gyda chydweithwyr Atal a Rheoli Heintiau, cadarnhawyd nad oedd angen y tywelion. Bydd cael gwared arnynt yn arbed dros £5,000 bob blwyddyn ac yn lleihau allyriadau carbon 3780 kg - sy'n cyfateb i'r ynni cartref sydd ei angen i redeg cartref teuluol am flwyddyn. “Mae cael ymgysylltiad ar bob lefel yn wirioneddol bwysig,” meddai Sheelagh.
Mae cleifion hefyd yn cael eu hannog i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy trwy gynhyrchion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd sydd ar gael yn y dderbynfa, gan gynnwys brwsys dannedd, brwsys rhyngddannedd a fflos dannedd.
Yn ddiweddar, trefnodd Sheelagh a Nagham eu hail Sgyrsiau Cynaliadwyedd mewn Deintyddiaeth (SID) blynyddol, gyda staff a myfyrwyr yn arddangos prosiectau yn dangos sut y gall dulliau sy'n ystyriol o'r amgylchedd wella gofal cleifion hefyd. Gwnaeth un o'r siaradwyr, Christina Williams – Cofrestrydd Arbenigol mewn Llawfeddygaeth y Geg – siarad am ddarparu Llawfeddygaeth y Geg Ganolraddol mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, yn hytrach nag yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn unig. Dangosodd ei chyfrifiadau, drwy ddarparu gwasanaethau yn nes at y cartref, fod cleifion wedi teithio 7,000 o filltiroedd yn llai ar gyfer apwyntiadau cyntaf yn unig dros gyfnod o flwyddyn, gan leihau allyriadau carbon yn sylweddol.
I Sheelagh, bydd cynnal momentwm yn allweddol i newid hirdymor. “Mae’n agenda nad yw’n mynd i ddiflannu,” meddai hi. “Rwy’n falch ein bod wedi sefydlu grŵp gweithio ar y cyd ac wedi cynnwys cymaint o wahanol bobl. Yr hyn sydd ei angen ar gyfer newid cynaliadwy yw arweinyddiaeth, dyfalbarhad a rhywun sy'n parhau i 'hyrwyddo'r agenda hon.
“Mae ceisio gwella gofal deintyddol cleifion mewn ffordd gynaliadwy a’i ymgorffori mewn addysg yn stori newyddion dda. Hyd yn oed os yw'r newidiadau a wnawn yn fach fesul tipyn, gallwn ni wneud gwahaniaeth o hyd.”
Llun, chwith i’r dde: Sheelagh Rogers, y Nyrsys Deintyddol Julie a Laura, a siaradwyr yn Sgyrsiau Cynaliadwyedd mewn Deintyddiaeth (SID): Nagham, Christina, myfyriwr deintyddiaeth pedwaredd flwyddyn Awab Mostafa, Daniel, Kathryn a Sheelagh.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.