Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r tîm sy'n cefnogi gofal endometriosis yng Nghaerdydd a'r Fro

3 Mawrth 2026

Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob deg menyw yng Nghymru, ond mae'r clefyd yn dal i gael ei gamddeall i raddau helaeth. Mae endometriosis yn llawer mwy na ‘dim ond mislif gwael’. Mae’n gyflwr cronig sy’n aml yn llethol ac mae’n cael effaith enfawr ar fywyd bob dydd.

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Endometriosis, fe wnaethon ni siarad â'r tîm sy'n arbenigo mewn gofal Endometriosis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Beth yw endometriosis?

“Mae endometriosis yn gyflwr cyffredin iawn sy’n effeithio ar fenywod a’r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni” meddai’r Meddyg Ymgynghorol Gynaecoleg Mr Lutfi Shamsuddin. “Mae’n effeithio ar bobl sydd wedi dechrau eu mislif fel arfer hyd at y menopos, er y gall effeithio ar nifer fach o bobl ar ôl y menopos. Mae'r afiechyd yn amrywio'n fawr o ran ei symptomau ac yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd.”

Mae’r Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Endometriosis a Phoen yn y Pelfis, Ms Helen Evans yn ychwanegu, “gydag endometriosis, mae meinwe debyg i leinin y groth yn tyfu y tu allan i'r groth. Gellir dod o hyd iddo yn y pelfis, y bledren, y coluddyn, a hyd yn oed, mewn achosion prin, yr ysgyfaint.”

Beth yw'r symptomau i edrych amdanynt a sut mae'n cael ei ddiagnosio?

“Mae symptomau i edrych amdanynt yn cynnwys mislifau trwm iawn a phoenus, poen pelfig cronig (yn ystod mislif a thu allan i'ch cylchred arferol), i rai pobl mae yna waedu afreolaidd a phoen yn ystod neu ar ôl rhyw hefyd” meddai Helen.

“I wneud diagnosis o endometriosis, rydym yn dechrau trwy ddeall hanes y claf trwy drafodaeth fanwl o symptomau. Yna byddem yn archwilio'r abdomen a'r pelfis,” eglura Lutfi.

“Gall ymchwiliadau pellach gynnwys sganiau uwchsain ac MRI, er nad yw'r rhain bob amser yn canfod y cyflwr. Mewn rhai achosion, rydym yn defnyddio laparosgopi diagnostig (llawdriniaeth twll clo) i'w gadarnhau. Mae hyn yn cynnwys camera sy'n cael ei fewnosod drwy fotwm y bol i weld organau mewnol a chanfod twf meinwe.”

Sut gellir rheoli endometriosis?

“Yn anffodus, nid oes iachâd ar hyn o bryd ar gyfer Endometriosis, ond mae gennym ni nifer o strategaethau ar gyfer rheoli’r cyflwr” meddai’r Meddyg Ymgynghorol Gynaecoleg Ms Angharad Jones. “Mae’n gyflwr gydol oes a all effeithio ar wahanol gyfnodau o fywyd claf, felly efallai y bydd yn rhaid i unigolion leihau a newid pa strategaethau triniaeth sydd ganddyn nhw drwy gydol eu taith.”

Mae'r Gynaecolegydd Obstetregydd Ymgynghorol Mr Anthony Griffiths yn egluro'r gwahanol opsiynau triniaeth ar gyfer Endometriosis, “gellir rhannu triniaeth ar gyfer symptomau endometriosis yn bedwar grŵp; ceidwadol, anhormonaidd, hormonaidd a llawfeddygol.”

“Mae ceidwadol yn golygu cadw llygad ar y clefyd, gan fonitro sut mae symptomau’n datblygu dros amser.

“Gall triniaethau anhormonaidd gynnwys meddyginiaeth lleddfu poen gweithredol, ond hefyd dulliau a therapïau eraill a all helpu i reoli poen. Gallai hyn olygu gweithio gyda chydweithwyr anesthetig a all gefnogi drwy roi meddyginiaeth merwino nerfau a phatshys anesthetig neu weithio gyda ffisiotherapyddion a deietegwyr i helpu i reoli symptomau.

“Gall therapïau hormonaidd gynnwys dulliau atal cenhedlu hormonaidd a thriniaethau hormonaidd trwyddedig. Mae'r rhain wir yn newid tirwedd gofal endometriosis. Mae llawer o driniaethau hormonaidd ar gael mewn Gofal Sylfaenol, felly mae'n bwysig iawn ceisio cefnogaeth gan eich meddyg teulu yn y lle cyntaf.”

“Mae triniaethau llawfeddygol yn cynnwys llawdriniaeth laparosgopig (llawdriniaeth twll clo), lle gallwn dorri'r meinwe endometriosis allan o dan anesthetig cyffredinol.”

Dywed y Meddyg Ymgynghorol Gynaecoleg Mr Edward Harrison , “Rwy’n credu mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig ar gyfer rheoli endometriosis yw ein bod yn meddwl yn holistaidd. Ochr yn ochr â thriniaeth feddygol, gall dulliau fel ffisiotherapi llawr y pelfis, deietau gwrthlidiol, a therapi seicorywiol i gyd helpu i wella ansawdd bywyd ein cleifion.”

Beth hoffech chi i'r cyhoedd ei wybod am endometriosis?

“Mae llawer o waith caled yn digwydd y tu ôl i’r llenni gyda gofal endometriosis. “Ers cyhyd mae iechyd menywod wedi cael ei roi i’r naill ochr ond mae cymaint o waith yn digwydd nawr i wthio’r ffiniau gyda’r hyn y gallwn ei wneud i gleifion ag endometriosis” meddai Angharad.

“Mae timau gofal iechyd a grwpiau cymorth hefyd yn gweithio’n ddiflino i helpu cleifion i ymdopi ac mae elusennau’n gweithio’n galed i hyrwyddo agendâu ymchwil. Mae cymaint o gefnogaeth ar gael ar-lein hefyd os ydych chi'n cael trafferth ac angen cefnogaeth.”

Er bod llawer o waith i'w wneud o hyd, mae ymwybyddiaeth gynyddol a gofal gwell yn helpu i newid dyfodol y rhai sy'n byw gydag endometriosis.

Rhai adnoddau defnyddiol ar gyfer cymorth endometriosis:

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni