Neidio i'r prif gynnwy

Annog y rhai sy'n gymwys i gael y brechlynnau Covid-19, ffliw ac MMR diweddaraf

Anogir y rhai sy’n gymwys ac sydd angen y brechlynnau Covid-19, ffliw a/neu MMR diweddaraf i wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Gofynnir i unigolion sydd fel arfer yn cael eu brechiad rhag y ffliw neu frechiad MMR gan eu meddyg teulu, i gysylltu â’u practis i wneud apwyntiad.

Mae’r plant a gollodd eu brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr ysgol yn cael eu hannog i fynychu tair sesiwn dal i fyny ar 10, 15 a 18 Ionawr, 2024. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yma.

Mae brechiadau Covid-19, ffliw ac MMR hefyd ar gael yn nwy Ganolfan Brechu Torfol (MVC) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro heb apwyntiad.

Mae brechiadau’n cael eu cynnig yng Nghanolfan Brechu Torfol (MVC) Ysbyty’r Barri, ar Heol Colcot, ac yn MVC Ysbyty Rookwood, ar Heol y Tyllgoed, Llandaf. Bydd hi’n bosibl galw heibio i MVC Rookwood bob dydd o 9am-6pm tan ddydd Sadwrn, 30 Mawrth, 2024. Bydd hi’n bosibl galw heibio i MVC y Barri bob dydd o 9am-6pm tan ddydd Sul, 3 Mawrth, ond yna bydd ar agor ar ddyddiau Sadwrn a Sul yn unig (9am-6pm hefyd).

I oedolion, bydd y brechlyn ffliw a’r dos atgyfnerthu Covid-19 ar gael yn y Canolfannau Brechu Torfol, ac i blant bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn neu frechlyn ffliw heb gelatin ar gael.

Yn ogystal â Covid-19 a’r ffliw, bydd brechwyr yn gallu rhoi’r brechlyn MMR i unrhyw un a fethodd eu hapwyntiadau rheolaidd. Mae’n dilyn achos o’r frech goch yng Nghaerdydd lle nodwyd wyth achos a gadarnhawyd.

Mae’r brechlyn MMR yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bob plentyn mewn dau ddos: un yn 12/13 mis ac un arall ar yn dair oed a phedwar mis, a dylai rhieni a gofalwyr fynychu’r sesiynau hyn sydd wedi’u hamserlennu gyda’u meddyg teulu pan gânt eu gwahodd.

Fodd bynnag, nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny, felly anogir plant, pobl ifanc yn eu harddegau neu oedolion nad ydynt erioed wedi cael y brechlyn MMR - neu frechlyn y frech goch ar ei ben ei hun - i siarad â’u meddyg teulu am frechu neu fynd i Ganolfan Brechu Torfol. Nid oes angen apwyntiad yn yr MVC, ac unwaith eto bydd opsiwn heb gelatin ar gael.

Os cafodd eich plentyn y brechlyn MMR cyn 12 mis oed, fel y rhai sydd wedi cael y brechlyn dramor, gallai fod yn fuddiol iddynt gael brechiad pellach. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â’ch meddyg teulu i drafod neu cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd ar 02921 841234.

Dywedodd Victoria Whitchurch, Pennaeth Gweithrediadau, Imiwneiddio a Phrofi Torfol: “Mae’r broses o gyflwyno brechiadau Covid-19 a’r ffliw yn ystod y gaeaf bellach ar ei hanterth, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi mynychu eu hapwyntiadau hyd yn hyn. Rydym yn gwerthfawrogi bod yr adeg hon o’r flwyddyn yn brysur i deuluoedd ar draws Caerdydd a’r Fro, ond bydd y ffaith eich bod chi a’ch anwyliaid yn cael eich brechu yn sicrhau eich bod yn cael eich diogelu rhag y feirysau hyn.

“Rydym yn dechrau apwyntiadau galw heibio yn ein dwy Ganolfan Brechu Torfol fel y gall pobl gymwys fynychu ar ddyddiad ac amser sy’n gyfleus iddyn nhw. Mae hyn yn cael ei wneud ochr yn ochr â’n cydweithwyr mewn meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol sy’n dal i gynnig apwyntiadau.

“Mae ein hysbytai yn wynebu lefelau parhaus o bwysau uchel, felly chwaraewch eich rhan i leihau’r galw ar ein cydweithwyr gofal iechyd trwy gael eich brechlynnau.”

Ymhlith y bobl sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn Covid-19 y gaeaf hwn mae:

  • Oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn
  • Preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg glinigol (fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd Imiwneiddio)
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pobl rhwng 12 a 64 oed sy’n gysylltiadau cartref i bobl sy’n imiwnoataliedig (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)
  • Pobl rhwng 16 a 64 oed sy’n ofalwyr (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)
  • Pobl ddigartref
  • Menywod beichiog

Mae pobl a fydd yn gymwys i gael y brechiad rhag y ffliw yn cynnwys:

  • Oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn
  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst)
  • Plant ysgol hyd at Flwyddyn 11
  • Pobl rhwng chwe mis a 64 oed mewn grŵp risg clinigol
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Gofalwyr
  • Menywod beichiog
Dilynwch ni