Neidio i'r prif gynnwy

Plant a gollodd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr ysgol yn cael eu gwahodd i glinigau galw heibio terfynol

Gall plant a gollodd eu brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr ysgol fynychu un o dair sesiwn dal i fyny terfynol sy'n cael eu trefnu y mis hwn.

Mae'r Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol wedi trefnu'r clinigau galw heibio yn nhair Canolfan Brechu Torfol Caerdydd a'r Fro ar gyfer pawb yn y Derbyn i Flwyddyn 11 sydd heb gael y brechlyn ffliw y flwyddyn academaidd hon.

Byddant yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol:

Dydd Mercher, 10 Ionawr (3.45pm-5.45pm) - Hyb Llesiant Maelfa, Llanedeyrn, Caerdydd CF23 9PF

Dydd Llun, 15 Ionawr (3.45pm-5.45pm) - Ysbyty Rookwood, Heol y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2YN

Dydd Iau, 18 Ionawr (3.45pm-5.45pm) - Ysbyty’r Barri, Heol Colcot, y Barri, CF62 8HY

Yn y clinigau galw heibio hyn, bydd brechiadau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin a byddant yn amodol ar argaeledd.

Os nad ydych wedi llenwi ffurflen eisoes, llenwch hi o'r ddolen a anfonwyd atoch gan ysgol eich plentyn.

Os nad ydych yn siŵr a yw'ch plentyn wedi derbyn ei frechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr ysgol y flwyddyn academaidd hon, ffoniwch 02920 907661/664.

Dilynwch ni