15 Ebrill 2024
Mae ciosg newydd talu â cherdyn ar gyfer lluniau sgan wedi'i osod yn yr adran cynenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Bydd y ciosg ar gael o ddydd Llun, 22 Ebrill a bydd yn cynnwys opsiynau talu gyda cherdyn ac arian parod i'w gwneud yn fwy cyfleus i brynu lluniau sgan babanod.
Ar ôl i gleifion hysbysu'r dderbynfa eu bod wedi cyrraedd ar gyfer eu hapwyntiad, byddant yn gallu prynu tocyn o'r ciosg sydd wedi'i leoli wrth ddesg y dderbynfa. Yna gellir rhoi’r tocyn i'r clinigwr sy'n cynnal y sgan.
Y tâl safonol ar gyfer lluniau sgan yw £5 am ddau lun. Fodd bynnag, os yw cleifion yn dymuno prynu mwy gallant brynu sawl tocyn.
Gall cleifion sy'n mynd i Ysbyty Athrofaol Llandochau brynu tocyn gan ddefnyddio pum darn £1. Rydym yn gobeithio dod â system talu â cherdyn i Ysbyty Athrofaol Llandochau yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth am ein Gwasanaethau Mamolaeth, ewch i bipcaf.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-mamolaeth.