Yn ystod yr apwyntiad mamolaeth, bydd y fydwraig yn trafod eich beichiogrwydd ac yn rhoi caniatâd i chi gael sganiau uwchsain a phrofion gwaed. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n deall y dewisiadau ar gyfer profion sgrinio, cliciwch y ddolen am profion sgrinio cyn geni ac gwyliwch y fideo ar brofion sgrinio ar gyfer syndrom Down, Edwards a Patau
Rhifau ffon defnyddiol
Ystafelloedd Geni: 029 20748565/ 2679/2686 | Ystafelloedd Ysgogi Geni: 02921846185 |
Clinig Cyn Geni UHW: 02920 742288 | Uned Arweinir gan Fydwragedd: 02920 745196 |
Clinig Cyn Geni UHL: 029 20716103 | Uned Newydd-anedig: 02920 742680 |
Meddygaeth y Ffeyws : 029 2074 2279 | Uned Asesu Obstetreg: 02920 744658 |
Swyddfa Bydwragedd Cymunedol: 02920 745030 | Ward ar ol Geni: 02920 744436/743343 |
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym yn deall pwysigrwydd sicrhau bod teulu a ffrindiau yn gallu ymweld â’u hanwyliaid yn yr ysbyty a’r manteision sy’n gysylltiedig â hyn.
Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn parhau i adolygu trefniadau ymweld yn rheolaidd.
Yn dilyn llacio cyfyngiadau COVID-19 a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol yn ddiweddar, rydym wedi gallu adfer ymweliadau ymhellach mewn gwasanaethau mamolaeth ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae’n ofynnol i ni gymryd camau rhesymol o hyd i sicrhau ein bod ni’n lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws o fewn ein hamgylchedd ysbyty.
Bydd menywod a phobl sy'n geni yn gallu cael un partner geni/partner cymorth gyda nhw ar gyfer pob apwyntiad.
Fodd bynnag, oherwydd prinder lle cyfyngedig iawn o fewn yr ardal aros ar
y llawr mamolaeth daear uchaf, gofynnwn yn garedig i bartneriaid geni/partneriaid cymorth ystyried aros y tu allan nes eu bod yn cael eu galw.
Gall menywod a phobl sy'n geni ddod ag un partner geni/partner cymorth i bob apwyntiad yn ystod y cyfnod cynenedigol.
Ar gyfer apwyntiadau sgan mewn Clinig Cyn-geni neu Adran Radioleg, rydym yn argymell yn gryf nad ydych yn dod â phlant lle bynnag y bo modd.
Gall menywod a phobl sy’n geni sy’n dod fel claf allanol neu glaf mewnol i brysuro’r geni gael cwmni un partner geni/partner cymorth rhwng 9am a 9pm.
Gall menywod a phobl sy'n geni gael dau bartner geni/partner cymorth yn bresennol ar gyfer pob cam o'r enedigaeth bellach. Mae hyn ar unedau Dan Arweiniad Meddygon Ymgynghorol a Bydwragedd.
Gall menywod a phobl sy'n geni gael un partner geni/partner cymorth gyda nhw ar y ward rhwng 9am a 9pm.
Gall brodyr a chwiorydd fynychu'r ward yn ystod oriau ymweld. Fodd bynnag, oherwydd mesurau atal a rheoli heintiau, ni fydd plant eraill yn gallu mynychu'r ward.
Mae ymweliadau yn yr Ardal Adfer yn gyfyngedig i un partner geni/partner cymorth am ddwy awr ar ôl yr enedigaeth hyd nes y trosglwyddir y claf i'r ward ôl-enedigol
Mae'n bwysig iawn cymryd pob cam posibl i atal haint rhag lledu yn yr ysbyty. Gyda'i gilydd, gall cleifion ac ymwelwyr helpu'r staff i leihau risg heintio neu groes-heintio.
Cofiwch wneud y canlynol:
Mae Gwasanaethau Arlwyo'r BIP yn ymdrechu'n ddiwyd i sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer anghenion ein holl gleifion. Mae'n bwysig inni gael eich cydweithrediad ar y materion canlynol, am nad ydym am effeithio'n andwyol ar iechyd unrhyw glaf oherwydd bwyd a ddaeth i mewn iddo ei fwyta.
Peidiwch â dod ag unrhyw rai o'r bwydydd hyn i mewn, os gwelwch yn dda: