17 Gorffennaf 2026
Bod yn egnïol yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i gefnogi ein hiechyd a’n lles. Mae’n helpu i gadw pwysau iach, yn codi’r hwyliau, yn cryfhau’r esgyrn a’r cyhyrau ac yn lleihau’r risg o ddatblygu cyflyrau cronig.
Dylai plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol am gyfartaledd o 60 munud o leiaf y dydd drwy’r wythnos.
Er mwyn cefnogi eich plentyn neu berson ifanc i gyrraedd y nod hwn, mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cynnig cyfleoedd chwarae rhad ac am ddim sy'n hwyliog, yn gymdeithasol, yn gorfforol, yn greadigol ac yn cynnwys chwarae ‘blêr’, trwy gydol gwyliau'r haf. Cymerwch gipolwg ar yr hyn sydd ar gael:
Maent yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a diddorol i blant. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a diddorol i blant. Mae gweithgareddau'n amrywio o chwaraeon a gweithgareddau corfforol i gelf a chrefft a gemau sy'n herio'r ymennydd.
Dewch o hyd i chwarae yn agos atoch chi.
Cliciwch yma i weld Rhaglen Gwyliau Ysgol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Cliciwch yma i weld gweithgareddau gan Tîm Byw’n Iach yng Nghyngor Bro Morgannwg.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.