Neidio i'r prif gynnwy

Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda: Rhoi'r offer i bobl dros 50 oed i aros yn iach ac yn egnïol

Drwy gydol ei hoes, mae Annette Brown wedi mwynhau cadw’n heini, mynd ar deithiau cerdded hir a neilltuo degawdau i gymnasteg yng Nghymru.

Felly pan ddaeth y cyfle i ymuno â Byw’n Dda Heneiddio’n Dda, cwrs GIG am ddim a gynlluniwyd i gynnal ei llesiant corfforol a meddyliol, achubodd ar y cyfle.

Wedi'i gynnal gan hyfforddwyr adsefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae Byw'n Dda Heneiddio'n Dda yn rhoi cyfle i bobl dros 50 oed ddysgu mwy am sut i ofalu am eu hiechyd wrth iddynt heneiddio.

Mae'r sesiynau awr o hyd, a gynhelir ddwywaith yr wythnos am chwe wythnos, yn dechrau gyda thrafodaeth grŵp ar heneiddio'n iach, ac yna amrywiaeth o ymarferion syml i wella symudiad a gweithrediad.

“Mae’r cwrs yn gwbl ysbrydoledig,” meddai Annette, 79, o Laneirwg, a gymerodd ran yn y cwrs a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain, Llanrhymni, bob dydd Llun a dydd Mercher.

“Nid ymarfer corff yn unig ydyw; mae’n eich dysgu sut i gadw’ch hun yn iach ac yn heini - oherwydd rydych chi’n mynd ychydig yn hunanfodlon wrth i chi fynd yn hŷn.

“Rydyn ni’n cael llawer o awgrymiadau ar faeth, cydbwysedd a sut i gadw’ch hun yn ddiogel. Mae'r ochr gymdeithasol ohono hefyd yn bwysig wrth i chi gymysgu â phobl eraill sydd i gyd â'r un meddylfryd.”

Dywedodd Annette, sy'n hen nain, ei bod wedi cymryd y cyfoeth o gyngor gan arweinwyr y cwrs a'i ddefnyddio yn ei bywyd bob dydd. “Maen nhw’n gwrando ar broblemau pawb ac yn ceisio teilwra’r gefnogaeth gymaint â phosibl,” ychwanegodd.

“Rwy’n agosáu at 80 nawr, ac rwy’n dal i deimlo’n heini ac yn egnïol iawn. Rydw i wedi dechrau grŵp WhatsApp ar gyfer holl aelodau’r cwrs, ac rydyn ni’n gobeithio cwrdd am goffi er mwyn i ni allu cadw mewn cysylltiad ar ôl iddo orffen.”

Mae'r cwrs Byw'n Dda Heneiddio'n Dda wedi'i gyd-gynhyrchu gan aelodau'r gymuned a gweithwyr proffesiynol ac mae'n cael ei gynnal yn y lleoliadau canlynol ar hyn o bryd:

V21 Canolfan Sbectrwm, Y Tyllgoed (CF5 3EF)

  • Dydd Mawrth a Dydd Iau

Canolfan Hamdden y Dwyrain, Llanrhymni, (CF3 4DN)

  • Dydd Llun a Dydd Mercher

Canolfan Hamdden y Barri (CF63 4JJ)

  • Dydd Iau a dydd Gwener

Canolfan Gymunedol Belle Vue, Penarth (CF64 1DA)

  • Dydd Llun a Dydd Iau

Gellir atgyfeirio pobl at y cwrs mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond gallant hefyd gofrestru eu hunain drwy wefan Cadw Fi’n Iach yma.

Dywedodd Rob Jones, Arweinydd y Tîm Byw'n Dda: “Mae’r cwrs i gyd yn ymwneud ag atal. Rydym am gefnogi pobl yn gynharach yn eu bywydau, gan eu helpu i feithrin y sgiliau a'r hyder i ofalu amdanyn nhw eu hunain, dod yn fwy egnïol yn gorfforol a chwarae rhan fwy yn eu cymunedau.”

Mae elfen trafodaeth grŵp y sesiynau yn cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys sut i wella'ch cwsg, sut i atal cwympiadau, iechyd yr ymennydd a bwyta'n iach. Mae'r rhan ymarfer corff hefyd yn amrywiol a gall gynnwys gwella cryfder, cydbwysedd a gweithrdiad cyffredinol.

“Ar ôl i’r cwrs chwe wythnos ddod i ben, mae cyfle i bobl barhau i wella eu hiechyd yn y lleoliad lle maen nhw wedi gwneud y cwrs – a hefyd yn y gymuned ehangach,” eglurodd Rob. “Bydd yr hyfforddwyr adsefydlu yn eu cefnogi i gael mynediad at weithgareddau parhaus fel aelodaeth hamdden â chymhorthdal, tai chi a cherdded Nordig. Rydyn ni'n cysylltu â phawb.”

Dywedodd Rob ei fod wedi gweld pobl yn magu hyder o ganlyniad i gwblhau'r cwrs Byw'n Dda Heneiddio'n Dda.

“Mae pobl yn meithrin cydberthnasau agos a chyfeillgarwch â’i gilydd – ac maen nhw’n parhau i wneud ymarfer corff gyda’i gilydd yn eu cymunedau.” 

Am ragor o wybodaeth am y cwrs Byw'n Dda Heneiddio'n Dda ewch i wefan Cadw Fi'n Iach. Fel arall, gallwch anfon e-bost at Livewell.program.cav@wales.nhs.uk neu ffonio 02921 836945/07815645513.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni