Neidio i'r prif gynnwy

Byw a heneiddio'n dda gyda'n gilydd yn The Chai Chat Club

16 Rhagfyr 2025

Yn ddiweddar, bu The Chai Chat Club yng Nghanolfan India yn y Sblot, Caerdydd yn cynnal cwrs chwe wythnos newydd Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl i gadw’n heini, lleihau’r risg o gwympo a chadw mewn cysylltiad wrth iddynt heneiddio.

 

Llwyddodd y cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r Gymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd i ddod â chefnogaeth iechyd a lles i galon y gymuned leol.

Erbyn diwedd y cwrs, dywedodd un cyfranogwr: “Rwy’n teimlo’n hyderus yn fy hun ers dechrau’r cwrs hwn. Mae wedi bod yn effeithiol iawn i’m cymell i barhau â’r ymarferion er mwyn cadw’n heini a’m hatal rhag cwympo.”

Dywedodd Jyotshana, Hyfforddwr Adsefydlu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a arweiniodd y sesiynau yng Nghanolfan India: “Fe wnaethon ni sylwi fod pobl yn magu hyder a chryfder bob wythnos ac roedden nhw’n teimlo’n fwy cysylltiedig trwy wneud ymarferion roedden nhw’n eu mwynhau gyda’i gilydd. Yn bersonol, cefais brofi’r diwylliant bywiog a’r ymdeimlad o berthyn gan fod y bobl bob amser yn gofalu am ei gilydd, yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan.”

Mae’r cwrs hefyd yn cael ei gynnal mewn canolfannau hamdden yng Nghaerdydd, y Barri a Phenarth, gan gefnogi pobl i wneud y canlynol:

  • dysgu am ffyrdd o ofalu am eu hiechyd a’u lles
  • rhoi cynnig ar wahanol weithgareddau i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn feddyliol
  • lleihau eu risg o gwympo
  • cysylltu â’u cymuned leol

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae aelodau o’r gymuned a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gaerdydd a Bro Morgannwg wedi bod yn cydweithio i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol i gefnogi pobl i fyw’n dda wrth iddynt heneiddio, megis y cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda.

Mae’r ffocws ar atal ac mae’n ceisio tynnu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r arbenigedd sy’n bodoli ar draws cymunedau i gyfuno adnoddau a datblygu llwybrau cymorth integredig. Mae’r broses gyd-gynhyrchu wedi creu cysylltiadau ar draws sectorau a’r gymuned sydd wedi arwain at gydweithio pellach, gan gynnwys cynnal Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda i aelodau Canolfan India.

Ychwanegodd y ffisiotherapydd Rob Jones, sy’n cyd-arwain y Grŵp Cydgynhyrchu yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Arweiniodd cyflwyno’r cwrs o fewn The Chai Chat Club at berthynas ddwyochrog gydfuddiannol, wrth rannu gofod, arbenigedd a gwybodaeth

leol. Roedd yn galluogi pobl i gael mynediad i’r cwrs yn agosach at adref mewn amgylchedd diogel a chefnogol.”

Erbyn diwedd y cwrs, dywedodd y cyfranogwyr eu bod yn teimlo “llawer yn well” ac y byddent yn ei “argymell yn fawr” i eraill. Mae’r cwrs yn agored i unrhyw un yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd eisiau gwella eu hiechyd a’u lles wrth iddynt heneiddio. Gallwch hunanatgyfeirio neu gael eich atgyfeirio gan unrhyw ddarparwr gwasanaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu cwrs Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda, ffoniwch 02921 836945 neu 07815 645513 i gadw eich lle.

Rhagor o wybodaeth yma: Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda – Cadw Fi’n Iach

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni