15 Medi 2026
Mae bwyty Bwyd Blasus newydd wedi agor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, wedi'i leoli ar flaen safle'r ysbyty ble oedd Aroma gynt.
Yn dilyn llwyddiant y bwyty Bwyd Blasus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae'r lleoliad newydd yn cynnig lle arall i gydweithwyr, cleifion ac ymwelwyr fwyta, yfed a chymryd seibiant tra byddant yn yr ysbyty.
Mae Bwyd Blasus yn gweini amrywiaeth o brydau bwyd, byrbrydau a diodydd wedi'u paratoi'n ffres, a’r cyfan mewn lle bwyta cyfforddus. P'un a ydych chi'n ymweld â rhywun annwyl, yn mynychu apwyntiad neu'n cymryd seibiant yn ystod shifft brysur, mae'r bwyty'n darparu opsiwn cyfleus i gael bwyd a diod yn ystod eich diwrnod.
Mae'r fwydlen yn cynnwys prydau poeth, bwyd a diodydd i fynd, coffi arddull barista ac amrywiaeth o ddewisiadau llysieuol a bwyd planhigion.
Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid ym mwyty Ysbyty Athrofaol Cymru, mae ciw ar wahân wedi'i gyflwyno i bobl sydd eisiau prynu bwyd a diodydd i fynd yn safle newydd Llandochau. Mae hyn yn darparu opsiwn cyflymach i'r rhai sydd â phrinder amser ac sydd ond angen casglu diodydd, byrbrydau neu gludfwyd.
Dywedodd Andrew Pritchard, Pennaeth Arlwyo Manwerthu: "Mae hyn wedi bod ar y gweill ers amser maith ac mae'n wych gweld Bwyd Blasus bellach ar agor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Wedi'i leoli ar flaen safle'r ysbyty, mae'r bwyty'n cynnig ystod ehangach o opsiynau bwyd a diod, gan gynnwys dewisiadau mwy iach. Rydym hefyd wedi gwrando ar adborth gan gwsmeriaid yn ein bwyty yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac wedi cyflwyno ciw ar wahân i bobl sydd â phrinder amser ac sydd angen prynu rhywbeth yn gyflym. Mae Bwyd Blasus yn ychwanegiad gwych i gydweithwyr, cleifion ac ymwelwyr sy'n defnyddio safle Llandochau."
Mae Bwyd Blasus bellach ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul o 7am i 7pm.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.