Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymateb i Adroddiad yr Asesiad Annibynnol

7 Awst 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymateb i gyhoeddiad Adroddiad yr Asesiad Annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r trefniadau ymyrraeth wedi’i thargedu sydd ar waith ar gyfer y sefydliad ar hyn o bryd.

Ym mis Gorffennaf 2025, gosodwyd y Bwrdd Iechyd ar Lefel 4, neu ymyrraeth wedi’i thargedu, o fewn trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses hon, comisiynwyd Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gynnal asesiad annibynnol i helpu i ddeall y ffactorau sy'n cyfrannu at sefyllfa bresennol y Bwrdd Iechyd a nodi'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi gwelliant ac isgyfeirio yn y dyfodol. 

Fel rhan o'r asesiad, siaradodd cynghorwyr annibynnol â thua 200 o gydweithwyr o bob cwr o'r sefydliad i ddeall eu profiadau a'u safbwyntiau.  
 
Archwiliodd yr adroddiad arweinyddiaeth, diwylliant, ymddygiadau a llywodraethu, gan nodi meysydd lle mae angen gwelliant sylweddol tra hefyd yn cydnabod cryfderau o fewn y sefydliad ac ymrwymiad ei weithlu. 

Dywedodd Chris Bown, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: 

"Rydym yn cymryd canfyddiadau'r adroddiad o ddifrif ac yn cydnabod bod nifer o feysydd sydd angen eu gwella - rhaid mynd i'r afael â'r rhain ar frys." 

"Er bod gwaith eisoes ar y gweill mewn nifer o'r meysydd a nodwyd, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy. Mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr hyn y mae angen i ni ei wella a bydd yn helpu i lunio ein cynlluniau gwella parhaus, gan sicrhau eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau a gwella profiadau a chanlyniadau i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu. 

"Bob dydd, mae cydweithwyr yn gwneud gwahaniaeth drwy ddarparu gofal, cefnogaeth a sicrwydd yn ystod rhai o'r adegau pwysicaf a mwyaf heriol ym mywydau pobl. Mae'r ymroddiad hwnnw'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad, ac mae'n darparu sylfaen gref i adeiladu'r gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol arni. 

"Rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu a chymryd camau gweithredu. Drwy gadw pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gallwn wneud gwelliannau parhaol i'n cleifion, ein cymunedau a'n staff." 

Mae'r Bwrdd Iechyd eisoes wedi dechrau gweithio mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cryfhau trefniadau llywodraethu, cefnogi’r gwaith o ddatblygu arweinyddiaeth a dod â gweithgaredd gwella ynghyd trwy un Cynllun Gwella Integredig. Bydd hyn yn darparu dull clir a chydlynol o gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi gwelliant hirdymor. 

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod y cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth fynd i'r afael â heriau ymddygiadol hirdymor, ac mae’n cyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel lle dymunol i weithio, gan adlewyrchu'r ymroddiad a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan gydweithwyr ar draws y sefydliad. 

Dywedodd Kirsty Williams, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: 

"Mae'r adroddiad hwn yn gyfle pwysig i fyfyrio, dysgu a gwella. Er ei fod yn nodi meysydd lle mae angen newid, mae hefyd yn cydnabod ymrwymiad cydweithwyr ar draws ein sefydliad a'r cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud. 

"Rydym yn ymrwymedig i fod yn sefydliad sy'n gwrando, yn dysgu ac yn gwella'n barhaus. Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid GIG Cymru, staff a rhanddeiliaid, byddwn yn canolbwyntio ar wneud y newidiadau sydd eu hangen i gryfhau ein diwylliant, ein harweinyddiaeth a'n dulliau llywodraethu, gan barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'n cymunedau. 

"Mae newid ystyrlon yn cymryd amser, ymrwymiad ac ymdrech barhaus, ond rydym yn benderfynol o ddefnyddio canfyddiadau'r adroddiad hwn i adeiladu sefydliad cryfach ar gyfer y dyfodol. 

"Drwy ddysgu o'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym a chynnal ffocws clir ar yr hyn sydd bwysicaf i gleifion, cymunedau a staff, gallwn barhau i wella'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt a chryfhau hyder yn ein sefydliad." 

Llywodraeth Cymru: Datganiad Ysgrifenedig: Adroddiad Asesu Annibynnol Lefel 4 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (7 Awst 2026) | LLYW.CYMRU


Ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau: Anfonwch e-bost at ein swyddfa’r wasg yn news@wales.nhs.uk i gael copi o'n datganiad, ar gyfer ymholiadau eraill neu geisiadau am gyfweliadau. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni