Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfnerthu Gwanwyn 2023

28 Mawrth 2023

Mae pobl yn y grwpiau mwyaf agored i niwed yn cael eu hannog i gael eu dos atgyfnerthu COVID-19 yn rhan o raglen Dos Atgyfnerthu’r Gwanwyn eleni. 

Bydd pobl dros 75 oed, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn, a’r rhai pump oed a throsodd sy’n imiwnoataliedig yn cael eu gwahodd i gael y dos atgyfnerthu drwy lythyr neu neges destun gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gynnig amddiffyniad pellach iddynt rhag y feirws y gwanwyn hwn

Dewiswyd y grwpiau cymwys yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). 

Rhoddir y brechlynnau yng Nghanolfan Brechu Torfol (MVC) Tŷ Coetir ar Heol Maes-y-Coed, Caerdydd, CF14 4HH, a bydd hyn yn digwydd rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin. Dim ond i’r rhai sydd wedi cael gwahoddiad y byddant ar gael, ac ni chynigir unrhyw apwyntiadau galw heibio. 

Bydd brechlynnau ar gyfer y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael eu rhoi gan dimau symudol. 

Cael y dos atgyfnerthu yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hunain, eich anwyliaid a’r gymuned rhag salwch difrifol, felly ewch i’ch apwyntiad pan gewch eich gwahodd. 

Yn ogystal, mae pobl sydd dal heb gael y ddau ddos cychwynnol o’r cwrs sylfaenol cyffredinol o frechlyn COVID, a gynigiwyd o fis Rhagfyr 2020 i’r holl boblogaeth dros bump oed, yn gallu gwneud hynny hyd at 30 Mehefin, 2023. Gallwch alw heibio i gael eich dos cyntaf a’r ail ddos yng Nghanolfan Brechu Torfol Tŷ Coetir. 

Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, bydd angen i chi sicrhau bod 56 diwrnod (8 wythnos) rhwng eich dos cyntaf a’ch ail ddos. Os ydych o dan 18, bydd hyn yn 84 diwrnod (12 wythnos). 

Bydd y cynnig o ddos atgyfnerthu cyffredinol (trydydd dos), a gynigiwyd o hydref 2021 i bawb dros bump oed, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023, ochr yn ochr â rhaglen Dos Atgyfnerthu’r Hydref. 

Dilynwch ni