Bwyta'n Iach
Mae bwyta'n iach a maeth da yn golygu bwyta ystod o fwydydd a diodydd a bwyta'r rhain yn y dognau cywir. Bydd hyn yn eich helpu i gynnal pwysau iach a chael y maetholion hanfodol sydd eu hangen ar eich corff ar gyfer iechyd a llesiant da.
Gall yr 8 awgrym canlynol eich helpu i fwyta'n iachach, p'un a ydych chi'n cynllunio pryd o fwyd neu'n prynu byrbryd.
- Seiliwch eich prydau bwyd ar fwydydd â starts
- Bwytwch lawer o ffrwythau a llysiau
- Bwytwch fwy o bysgod
- Torrwch i lawr ar fraster dirlawn a siwgr
- Ceisiwch fwyta llai o halen - dim mwy na 6g y dydd
- Yfwch ddigon o ddŵr
- Peidiwch â hepgor brecwast
Mae canllaw Bwyta'n Iach yn cynnwys pum grŵp bwyd ac arweiniad am yr hyn y dylem ei fwyta a'i yfed i gael diet iach, cytbwys.
Adnoddau sydd ar gael
- Mae Byw'n Dda GIG yn darparu ystod eang o wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i gynnal diet iach.
- Mae Sefydliad Maeth Prydain yn rhoi llawer o wybodaeth am fwyta'n iach a maeth.
- Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn darparu gwybodaeth am fwyta'n iach a all helpu i atal clefyd y galon.
- Gall Newid am Oes yn eich helpu chi i fwyta'n dda trwy ddarparu awgrymiadau bwyta'n iach, awgrymiadau cyfnewid siwgr a gwybodaeth am fod yn glyfar o ran calorïau.
- Mae Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus yn dîm o ddietegwyr cofrestredig a gweithwyr cymorth sy'n cefnogi ac yn datblygu mentrau sy'n helpu pobl i wneud dewisiadau bwyd iach.
- Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain yn cyflenwi ffeithiau ar faeth a gwybodaeth ar sut y gall dietegydd eich helpu chi.
- Mae Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta yn wasanaeth sydd ar gael i unrhyw un dros 18 oed yn nalgylch Caerdydd a'r Fro. Gallant eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth defnyddiol am anhwylderau bwyta a gellir eu cyrchu trwy ofyn i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio naill ai at y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol am asesiad.