Mae'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr (EWS) yn darparu gwasanaeth cyfrinachol am ddim ar y safle i weithwyr Caerdydd a'r Fro.
Gallwch gyrchu'r gwasanaeth trwy gwblhau Ffurflen Hunan Atgyfeirio. Os hoffech gael copi papur o'r ffurflen hon, ffoniwch ni ar 02920744465 a gallwn anfon un atoch.
Mae cyfrinachedd yn bwysig i ni. Nid ydym yn rhannu ein cofnod ag unrhyw berson, gwasanaeth neu adran arall yn y BIP ac nid yw'ch nodiadau'n rhan o'ch ffeil Iechyd Personol, Meddygol na Galwedigaethol.
Cyfeirio staff at EWS
Mae EWS yn cynnig ystod o ymyriadau i bobl â chyflyrau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.
Nid yw EWS yn derbyn atgyfeiriadau gan reolwyr, nac atgyfeiriadau a gwblheir ar ran person arall. Mae'n bwysig iawn bod unigolyn yn atgyfeirio ei hun at y gwasanaeth hwn.
Fodd bynnag, mae rheolwyr a chydweithwyr yn chwarae rhan bwysig mewn cyfeirio staff i gael mynediad at EWS. Mae pobl yn aml yn amharod i ofyn am help a gellir eu hannog i wneud hynny pan fydd rhywun arall yn dangos consyrn. Yn 2018, dywedodd dros 40% o'r rhai a atgyfeiriodd atom eu bod wedi clywed am y gwasanaeth gan eu rheolwr. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn nad yw'r unigolyn yn teimlo dan bwysau i atgyfeirio. Dim ond os yw'n barod i newid y bydd rhywun yn elwa o'n gwasanaeth.
Pwy yw'r Tîm Llesiant Gweithwyr?
Fel gweithwyr y bwrdd iechyd, mae'r cwnselwyr yn gwybod am gyd-destun, diwylliant, polisïau a gweithdrefnau'r gweithle, a gallant eich cyfeirio'n effeithiol at wasanaethau lleol mewnol ac allanol.
Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae'r holl staff a gyflogir gan BIP Caerdydd a Fro yn gymwys, ond anogir meddygon i gysylltu ag Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol (gweler isod). Mae EWS yn cynnig ystod o ymyriadau i bobl â chyflyrau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Tra bod y gwasanaeth ar gael i bawb a gyflogir gan Gaerdydd a'r Fro, nid yw'n briodol i bawb. Os nad ydych yn siŵr ai’r gwasanaeth hwn yw’r un iawn i chi, cysylltwch â ni a gallwn eich cynghori.
Meddygon
Mae Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru yn wasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb i bob meddyg yng Nghymru. Mae'n rhoi mynediad i feddygon at therapydd achrededig BABCP (Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain) yn eu hardal.
Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol i feddygon yng Nghymru wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan Brifysgol Caerdydd.
I gael mynediad i'r gwasanaeth, ffoniwch 0800 058 2738 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd triniwr galwadau yn cymryd eich manylion ac yn eich rhoi mewn cysylltiad ag un o'n cynghorwyr meddygol, y gallwch wedyn siarad â nhw'n gyfrinachol. Cliciwch yma https://www.hhpwales.co.uk/ am fwy o wybodaeth a chefnogaeth tu allan i oriau.
Lle fyddai'n cael fy ngweld?
Byddwch yn cael cynnig apwyntiad ar y safle, naill ai yn YAC neu yn Llandochau.
Er y byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu apwyntiad ar eich dewis safle, er mwyn osgoi oedi posibl ac i sicrhau eich bod yn derbyn cefnogaeth EWS cyn gynted â phosibl, efallai y cynigir apwyntiad i chi ar y safle EWS arall.
Rwyf wedi cwblhau ffurflen atgyfeirio, beth sy'n digwydd nesaf?
Yn y rhan fwyaf o achosion fe'ch gwahoddir i apwyntiad adnoddau. Fodd bynnag, os ydym yn credu y byddech yn elwa o wasanaeth gwahanol, byddwn yn cysylltu â chi i roi mwy o wybodaeth i chi.
Nodwch
Nid gwasanaeth argyfwng yw Llesiant Gweithwyr. Os ydych chi mewn argyfwng, yn profi meddyliau hunanladdol gweithredol neu mewn perygl o achosi niwed i chi'ch hun neu i eraill, gallwch wneud apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu, neu os oes angen cymorth ar frys, cysylltwch â'r meddyg teulu y tu allan i oriau. Os oes angen gwasanaeth brys arnoch, fel ambiwlans, ffoniwch 999.
Gellir cysylltu â'r Samariaid 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy ffonio 116 123 a gallwch ymweld â www.samaritan.org.
Mae C.A.L.L. (Llinell Cyngor Cymunedol a Gwrando) yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Mae llinell gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol.
Cadw'n ddiogel - http://www.connectingwithpeople.org/StayingSafe