Cynlluniwyd yr offeryn hunanasesu hwn i'ch helpu i fyfyrio ac ystyried y cwestiynau a allai gael eu trafod yn ystod eich gwerthusiad, ac yn fan cychwyn i chi a'ch rheolwr wrth drafod.
Mae angen ichi ateb y cwestiynau'n onest ynghylch wyth maes;
Pan fyddwch yn clicio i gael gweld eich canlyniadau, cynhyrchir delwedd fel y diagram isod, a dylech ei hargraffu i fynd â hi i'ch cyfarfod Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i'w thrafod. Yn syml, bydd eich rheolwr yn gofyn ichi egluro'r ddelwedd, ac mae'n gyfle i'r ddau ohonoch drafod y meysydd dan sylw. Efallai bydd gwahaniaeth barn rhyngoch chi a'ch rheolwr, ond ni allwch gael yr atebion yn anghywir. Man cychwyn yw hwn ar gyfer sgwrs gyda'ch rheolwr i ganfod sut y gall eich cefnogi i gyrraedd y man lle mae arnoch eisiau ac angen bod.

Nid oes targed i'w gyrraedd ar y graddfeydd. Os yw eich canlyniadau'n ymddangos uwchlaw'r llinell oren ym mhob maes, efallai yr hoffech feddwl am ddatblygiad â ffocws.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.