Byddwch chi a'ch rheolwr yn trafod yr wybodaeth rydych wedi'i pharatoi ac yn defnyddio'r fframwaith sgwrs gyrfa i ddod â'r wybodaeth ynghyd. Nid oes unrhyw fannau cywir neu anghywir i fod; y peth pwysicaf yw ansawdd y sgwrs a'r ddirnadaeth a gewch.
Bydd eich rheolwr yn dod i'r sgwrs gyda gwybodaeth y mae wedi'i chael o drafod disgwyliadau a pherfformiad yr holl staff ar eich lefel chi gyda'i gymheiriaid.
Cynlluniwyd y fframwaith hwn i alluogi sgwrs am eich rôl yn y GIG a phlotio eich safle a'ch cyfeiriad. Byddwch yn dechrau drwy ateb y cwestiwn cyntaf...
Yn ystod eich Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd, byddwch chi a'ch rheolwr yn trafod eich hunanasesiad, adborth, amcanion a chynnydd ac yn defnyddio'r Fframwaith Sgwrs Gyrfa i ddod â'r wybodaeth ynghyd. Bydd eich rheolwr yn dod i'r sgwrs gyda gwybodaeth y mae wedi'i chael o drafod disgwyliadau a pherfformiad yr holl staff ar eich lefel chi gyda'i gymheiriaid. Nid oes unrhyw fannau cywir neu anghywir i fod; y peth pwysicaf yw ansawdd y sgwrs a'r ddirnadaeth a gewch. Byddwch chi a'ch rheolwr yn penderfynu gyda'ch gilydd ymhle byddwch yn cael eich rhoi ar y fframwaith drwy gytuno ar sgôr ar y raddfa lorweddol ar gyfer perfformiad a'r raddfa fertigol ar gyfer ymddygiad.
Yn naturiol, rydym oll yn symud o gwmpas ar y fframwaith hwn yn ystod ein gyrfaoedd. Bydd llawer o staff yn ein sefydliad yn canfod eu hunain yn y canol yn bodloni canlyniadau perfformiad gan ddefnyddio'r gwerthoedd a'r ymddygiadau cywir. Pan ddechreuwch symud i ffwrdd o'r canol, gallai olygu bod angen her newydd arnoch neu'ch bod yn barod am gyfnod newydd yn eich gyrfa. Ble bynnag ydych chi nawr, bydd eich trafodaeth hefyd yn cynnwys yr ail ddau gwestiwn:
Yn dilyn eich Gwerthusiad, bydd eich rheolwr yn cofnodi'r canlyniad ar ESR yn seiliedig ar eich sgoriau ar gyfer ymddygiadau a pherfformiad a chanlyniad eich trafodaethau. Mae'r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar eich datblygu chi, felly cynnal eich datblygiad i barhau'r gwaith da rydych yn ei wneud ar hyn o bryd, mynd i'r afael ag anghenion datblygiad penodol a nodwyd yn eich swydd gyfredol, neu fanteisio ar gryfderau a doniau posibl i'ch paratoi ar gyfer eich swydd nesaf.
Porffor:
|
Glas: |
Gwyrdd: |
Os nad ydych chi a'ch rheolwr yn gallu cytuno pa mor dda rydych wedi bodloni eich amcanion nac ar eich lle ar y fframwaith, byddwch am drafod pam nad yw'ch disgwyliadau yr un peth. Beth ddywedodd eich adborth wrthych chi? A ydy eich rheolwr yn disgwyl rhywbeth nad oeddech yn gwybod amdano? Os nad ydych yn gallu cytuno o gwbl, gallwch ofyn i'ch rheolwr am adolygiad pellach a phenderfyniad terfynol.