Pan fyddwch yn ystyried beth fydd ei angen er mwyn ichi gyrraedd eich amcanion newydd, gallwch gael cymorth, dysgu a datblygu mewn nifer o ffyrdd:
Cofiwch gofnodi datblygiadau sydd eu hangen yn uniongyrchol ar ESR ac yn y Llyfryn Cofnodi Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd hefyd
|
Profiadau perthynol i swydd
Profiad ymarferol yw'r peth mwyaf buddiol i staff am ei fod yn eu galluogi i ddarganfod a mireinio eu sgiliau perthynol i swydd, gwneud penderfyniadau, mynd i'r afael â heriau a rhyngweithio â phobl ddylanwadol fel rheolwyr a mentoriaid mewn safleoedd gwaith. Maen nhw hefyd yn dysgu o'u camgymeriadau ac yn cael adborth yn syth am eu perfformiad. Efallai yr hoffech ystyried prosiectau newydd neu nodau ymestyn i ddysgu mwy yn y modd hwn.
Dysgu oddi wrth eraill
Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel dysgu cymdeithasol, hyfforddi, mentora, dysgu cydweithredol a dulliau eraill o ryngweithio â chymheiriaid. Mae anogaeth ac adborth ymhlith prif fanteision y dull dysgu gwerthfawr hwn.
Hyfforddiant Ffurfiol
Mae rhaglenni datblygu sgiliau ar gael yma. Os oes angen ichi gael at y dogfennau hyn o gartref, neu os nad oes cyfrifiadur ar gael ichi, cysylltwch â'r Adran Dysgu, Addysg a Datblygiad i gael gwybod rhagor e-bostiwch yr Adran neu ffoniwch: 02921 847834 [est. 47834]
Am enghreifftiau o Gynllunio Datblygiad Personol, cysylltwch â'r Adran Dysgu, Addysg a Datblygiad i weld ein Hastudiaethau Achos Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd.