Beth yw prentisiaeth?
Cliciwch yma i gael mynediad i dudalen 'Beth yw prentisiaeth?'
Hoffwn ystyried cyflogi prentis, beth yw'r broses?
Cyfeiriwch at y Canllawiau i Reolwyr a chysylltwch ag Emma Bendle i gael trafodaeth gychwynnol.
Ble mae prentisiaethau'n cael eu hysbysebu?
Cliciwch yma i gael mynediad at y dudalen Gweithwyr Presennol.
Rwy'n weithiwr presennol ac yn ansicr ynghylch y cymwysterau a gynigir, sut alla'i ddarganfod mwy?
Cynhelir sesiynau ymwybyddiaeth misol yn YAC, bob yn ail fis yn YALl ac rydym hefyd yn mynychu ysbytai Dewi Sant, y Barri a CRI. Cliciwch yma i gael y dyddiadau sydd ar gael. Os nad yw'r rhain yn gyfleus gallwn drefnu ichi siarad â darparwr y cwrs yn uniongyrchol. Os oes gennych nifer o staff yn eich adran sydd â diddordeb, gallwn drefnu sesiwn ymwybyddiaeth yn benodol ar gyfer eich maes chi.
Pa mor hir mae prentisiaeth yn ei chymryd i'w chwblhau?
Mae prentisiaethau yn cymryd o leiaf deuddeg mis i'w cwblhau. Bydd hyd yr amser yn dibynnu ar y cymhwyster a gyflawnir.
Sut alla'i gyflawni prentisiaeth?
Gallwn gofrestru staff ar unrhyw adeg trwy'r flwyddyn, felly gallwch gychwyn cyn gynted ag y byddwch yn barod a bod gennych gefnogaeth eich rheolwr llinell. Yna byddwch yn cael ymweliadau aseswyr misol wrth i chi weithio tuag at eich cymhwyster trwy ddysgu parhaus yn y gwaith, gyda phortffolio ac asesiadau parhaus. Cliciwch yma i gael y ffurflen gais.
Beth yw NVQ (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol)?
Mae NVQs yn gymwysterau sy'n seiliedig ar gymhwysedd - mae hyn yn golygu eu bod yn cynnig prawf y gallwch chi wneud swydd. Mae NVQs ar gael mewn llawer o swyddi gwahanol, o weinyddiaeth i gyfleusterau. Mae llawer o gyflogwyr yn caniatáu i'w staff astudio ar gyfer NVQs yn ystod amser gwaith. Maent ar gael ar lefelau 1 i 5 fel y gallwch ddechrau ar lefel sy'n addas i chi a gweithio'ch ffordd i fyny. Mae Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu cydnabod ledled y DU ac yn cael eu cyflawni trwy gofnodi'r hyn rydych chi'n ei wneud yn y gwaith. Maent yn cynnwys hyfforddiant yn y gwaith.
Beth yw QCFs (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)?
Rydych chi'n gyflogedig i wneud swydd, a'r Fframwaith Cymwysterau a Chredyd (QCF) yw'r fframwaith newydd ar gyfer creu ac achredu cymwysterau. Mae cymwysterau sy'n defnyddio'r rheolau QCF yn cynnwys unedau. Mae hyn yn darparu ffyrdd hyblyg o gael cymhwyster. Mae gan bob uned werth credyd sy'n dweud wrthych faint o gredydau a ddyfernir pan fydd uned wedi'i chwblhau. Mae'r gwerth credyd hefyd yn rhoi syniad o ba mor hir y bydd fel arfer yn ei gymryd i chi baratoi ar gyfer uned neu gymhwyster. Bydd un credyd fel arfer yn cymryd 10 awr o ddysgu i chi. Mae unedau'n cronni tuag at gymwysterau. Mae tri math gwahanol o gymhwyster yn y QCF: Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma. Gallwch ennill Dyfarniad gydag 1 i 12 credyd; ar gyfer Tystysgrif bydd angen 13 - 36 credyd arnoch ac ar gyfer Diploma bydd angen o leiaf 37 credyd arnoch. Rhoddir lefel i unedau a chymwysterau yn ôl eu lefel anhawster, o lefel mynediad i lefel 8. Bydd teitl cymhwyster yn dweud wrthych beth yw ei faint a'i lefel. Os yw cymhwyster yn cynnwys uned a ddyfarnwyd ichi eisoes, gallwch ddefnyddio'r uned yr ydych eisoes wedi'i chymryd tuag at y cymhwyster hwnnw. Gellir cyfuno unedau a ddyfernir gan wahanol sefydliadau dyfarnu i adeiladu cymwysterau.