Gweithio i ddarparu gofal ysbrydol, bugeiliol, crefyddol fel rhan annatod o ofal iechyd modern.
Mae Caplaniaid Ysbyty yn darparu gofal ysbrydol i gymuned yr ysbyty. Maent yn cymryd eu lle ochr yn ochr â'r tîm amlddisgyblaethol sy'n ceisio darparu gofal cyfannol i gleifion a'r rhai sy'n agos atynt.
Gofal ysbrydol yw'r gofal hwnnw sy'n cydnabod ac yn ymateb i anghenion yr ysbryd dynol wrth wynebu trawma, afiechyd neu dristwch a gall gynnwys yr angen am ystyr, hunan-werth, i fynegi'ch hun, i gael cefnogaeth ffydd, efallai ar gyfer defodau neu weddi neu sacrament, neu'n syml i gael gwrandäwr sensitif.
Mae'r gwasanaeth a gynigiwn yn gyfrinachol ac yn anfeirniadol ac mae ar gael i bawb. Rydym yn gweithio mewn cyd-destun aml-ffydd, ond nid yw'n ymwneud â chrefydd yn unig, oherwydd mae hyd yn oed pobl o ddim crefydd, anffyddwyr ac agnostigion angen clust i wrando, a bydd Caplaniaid yn gwneud amser i ymweld.
Cyfarfod â Thîm Caplaniaeth Caerdydd a'r Fro
Caplaniaid amser llawn: Parch Jason Tugwell (Rheolwr y Gaplaniaeth) Y Tad Peter Davies Parch Caroline John. |
Caplaniaid rhan-amser: Parch Christine Powell Parch Rachel Lewis Parch Catherine Brobbey Y Tad David Prichard. |
Caplaniaid Moslemaidd: Caplainiaid Iddewig: |
Cefnogir caplaniaid gan ein Tîm o tua 30 o Wirfoddolwyr Lleyg. Mae'r rhain yn bobl sy'n helpu gydag ymweld â wardiau.
Ffôn: 02921 843230
e-bost: spiritual.careteam@wales.nhs.uk
Cyfarfod â Thîm Caplaniaeth Caerdydd a'r Fro
Mae Tîm Caplaniaeth Caerdydd a'r Fro yn darparu gofal yn yr ysbytai canlynol:
Mae lle addoli yn y mwyafrif o'r ysbytai hyn.
Mae gennym Wasanaeth Dydd Sul am 2.30pm yn y Cysegr yn YAC. Gweler hysbysfwrdd Noddfa'r Cysegr am fanylion. Mae Offeren ddyddiol YALl am 2pm yn y Capel yn Llandochau, a dydd Mercher yn YAC am 10am.
Mae Caplan ar ddyletswydd bob dydd Sul, a gellir trefnu gwasanaethau byr wrth erchwyn y gwely ar gyfer unrhyw glaf sy'n dymuno rhannu mewn gwasanaeth. Ar gyfer cleifion sy'n symudol ac sy'n gallu cyrraedd y Cysegr (Capel) ar eu pennau eu hunain, gellir trefnu gwasanaethau gweddi a chymun yn y Cysegr yn lle wrth erchwyn y gwely. Mae'r capeli a'r ystafelloedd gweddi ar agor 24/7 i unrhyw un ymweld â nhw a threulio amser yno.
Ar gyfer staff ac ymwelwyr Moslemaidd, mae gweddi gynulleidfaol ddydd Gwener yn digwydd yn yr ardaloedd addoli Moslemaidd yn YAC a YALl.
Gwasanaeth Profedigaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro COVID-19
Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Athrofaol Cymru
Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Athrofaol Llandochau