Neidio i'r prif gynnwy

Wedi'i gymeradwyo'n llawn

  • Dim newid - Os nad oes newidiadau i'w gwneud i'r cynllun swydd sydd wedi’i gymeradwyo ac mae'r ddwy ochr yn dal i fod yn gytûn ei fod yn gywir ac yn gyfredol yna gallwch chi ei ailgychwyn yn syml. Cliciwch ar y 3 dot i'r dde o'r llinell gynllun gymeradwy a dewiswch 'Terfynu Cynllun swydd'. Dewiswch y dyddiad cywir i'r cynllun ddod i ben a chlicio 'cadw'. Cliciwch ar y 3 dot eto a dewiswch yr opsiwn 'Ailddechrau cynllun swydd' . Bydd yn gofyn i chi gadarnhau'r dyddiad a hefyd eich atgoffa na fydd yn  mynd trwy'r broses gymeradwyo. Os ydych yn cytuno, bydd y cynllun yn cael ei gopïo a'i ychwanegu fel y cynllun swydd  wedi’i gymeradwyo’n llawn newydd cyfredol.

 

  • Newidiadau - Os oes gan y cynllun swydd mwyaf cyfredol rai newidiadau i'w gwneud cyn i chi ei ailgyhoeddi am y flwyddyn gyfredol, gallwch ddefnyddio’r opsiwn 'Golygu ac ailgyhoeddi cynllun swydd'  sy'n cael ei gyrchu trwy'r 3 dot i'r dde o'r llinell cynllun swydd. Bydd yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am olygu ac ailgyhoeddi'r cynllun swydd gyda'r dyddiad hwnnw (nodwch mai dyna ddyddiad dechrau’r cynllun swydd rydych yn ei gopïo, nid dyddiad dechrau’r cynllun newydd).

Fel arall, os ydych am gyhoeddi'r cynllun swydd mwyaf cyfredol i'r clinigwr, er mwyn iddynt wneud newidiadau eu hunain, defnyddiwch yr opsiwn 'Ailgyhoeddi cynllun swydd' . Eto, bydd yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am ailgyhoeddi'r cynllun swydd gyda'r dyddiad hwnnw (nodwch mai dyna ddyddiad dechrau’r cynllun swydd rydych yn ei gopïo, nid dyddiad dechrau’r cynllun newydd). Os ewch ymlaen bydd yn copïo'r cynllun ac yn ei osod yn y cam trafod. Yna gall y Clinigwr adolygu a golygu'r cynllun.

 

  • Cynllun hollol newydd - Os ydych chi am ddechrau cynllun swydd wag newydd yna naill ai defnyddiwch yr opsiwn 'Golygu a Chyhoeddi'  yn y bar enw i agor cynllun newydd i olygu eich hun, neu ddefnyddio'r opsiwn 'Cyhoeddi' i gyhoeddi cynllun swydd gwag i'r clinigwr iddyn nhw ei gwblhau.

Sylwch, pan fyddwch yn cwblhau'r camau hyn, y bydd y clinigwr yn cael hysbysiad gan y system.

Yn ogystal â'r opsiynau uchod gallwch hefyd Ailgyhoeddi a Golygu ac Ailgyhoeddi unrhyw gynlluniau swyddi blaenorol. Bydd yr opsiynau hyn ar gael trwy'r 3 dot i'r dde o unrhyw gynlluniau swydd hanesyddol blaenorol.

Dilynwch ni