Neidio i'r prif gynnwy

Pobl a Diwylliant

Croeso i swyddogaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol neu "WOD".  Gobeithiwn y bydd ein gwefan newydd o ddefnydd a gwybodaeth i chi.  

Mae Swyddogaeth WOD yn cynnwys y Timau canlynol:-

Adnoddau Dynol Cydraddoldeb a'r Gymraeg Dysgu, Addysg a Datblygiad

Adnoddau a Systemau Meddygol

 
Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol / Lles Cyflogeion
Systemau Gwybodaeth y Gweithlu Llywodraethu'r Gweithlu Gofal Plant a Meithrinfeydd Cyflogres (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) Recriwtio (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru)

Uwch Dîm y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Rachel Gidman; Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro'r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Julie Cassley FCIPD; Dirprwy Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Cefnogir yr uwch dîm gan:

  • Jane Bennett, Cynorthwyydd Gweithredol i Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (Woodland House est. 36010) 

Fel tîm, ein prif ddiben yw cymryd camau gweithredu i wneud y BIP yn Lle Gwych i Weithio a Dysgu, yn unol â gwerthoedd sefydliadol y BIP.  Gwyddom y bydd y camau gweithredu hyn yn galluogi rheolwyr a staff ledled y BIP i ddatblygu a gwella.  

Rydym wedi nodi nifer o amcanion gweithlu isod, sydd hefyd yn cydredeg â Fframwaith
Gweithio'n Wahanol, Gweithio Law yn Llaw GIG Cymru. 

  • Credwn, drwy gyflawni'r rhain, y byddwn yn gallu:
  • Tyfu a datblygu arweinwyr clinigol newydd a phresennol a fydd yn ein symud yn ein blaenau
  • Hyfforddi, datblygu a recriwtio'r rheolwyr gorau
  • Ailgysylltu â'n staff er mwyn inni deimlo fel un tîm gyda'n gilydd
  • Helpu staff i ddatblygu sgiliau gwella a gwneud gwaith gwella
  • Cefnogi a datblygu ymhellach uchelgais ar gyfer rhagoriaeth
  • Gweithio'n fwy llwyddiannus gyda'n partneriaid
  • Canfod ffordd o weithredu technoleg i'n helpu i wneud gwaith gwell, a 
  • Chreu'r hinsawdd i arloesi.

 

 

Dilynwch ni