Nid un digwyddiad yw ail-ddilysu, mae'n cael ei ategu gan y broses arfarnu flynyddol a ddylai fod yn rhan annatod o ddatblygiad a dysgu personol a phroffesiynol meddyg.
Mae'n ofynnol i holl staff meddygol a deintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gymryd rhan yn yr arfarniad blynyddol yn unol â Pholisi Arfarnu Meddygol Cymru Gyfan.
Rhaid i arfarniadau meddygol yng Nghymru gael eu gwerthuso'n electronig drwy'r system MARS. Os ydych chi wedi dechrau gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ddiweddar gallwch gofrestru yma System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS).
Mae ail-ddilysu ac arfarnu’n seiliedig ar egwyddorion Canllaw Arfer Meddygol Da’r CMC https://www.gmc-uk.org/ethical-guidance/ethical-guidance-for-doctors/good-medical-practice
Yn eich arfarniad rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth sy'n cwmpasu eich holl ymarfer yn y parthau canlynol
Bydd angen i chi ddrafftio Cynllun Datblygu Personol a fydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru ym mhob arfarniad.
Unwaith ym mhob cylch arfarnu 5 mlynedd bydd angen i chi gael adborth aml-ffynhonnell ffurfiol 360 gan gleifion a chydweithwyr. Rydym yn argymell eich bod yn dechrau hyn cyn gynted â phosibl yn y cylch 5 mlynedd. Bydd angen i chi gael adborth gan 15 o gydweithwyr ac 20 o gleifion. Dylai pob darn o adborth aml-ffynhonnell gael ei gynnal trwy Orbit 360. Gallwch gofrestru a chreu cyfrif trwy'r wefan dolen i ORBIT sydd ei angen yma
Er mwyn bodloni gofynion ail-ddilysu rhaid uwchlwytho eich adroddiad 360 i MARS gyda'ch myfyrdodau a'u trafod â'ch arfarnwr.