Neidio i'r prif gynnwy

Eich Ailddilysiad

I gael eich ail-ddilysu rhaid i chi sicrhau bod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) eich corff dynodedig cywir a'ch swyddog cyfrifol

Gallwch ddiweddaru'r wybodaeth hon ar wefan y CMC - https://www.gmc-uk.org/registration-and-licensing/managing-your-registration/revalidation/my-db-tool

Fel Swyddog Cyfrifol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Athro Meriel Jenny (Cyfarwyddwr Meddygol) wneud argymhellion ail-ddilysu i'r CMC ar gyfer meddyg sydd â chysylltiad rhagnodedig â'r Bwrdd Iechyd.  Rhaid iddi fod yn hyderus eu bod wedi dangos eu ffitrwydd parhaus i ymarfer a darparu tystiolaeth (trwy MARS) eu bod wedi cael gwerthusiad blynyddol sy'n bodloni'r safonau a nodir gan y CMC. 

Mae'n hanfodol, os ydych yn feddyg sy'n gweithio yn y BIP (gan gynnwys deiliaid contract anrhydeddus) ac os oes gennych gysylltiad rhagnodedig â'r BIP eich bod yn paratoi ar gyfer ail-ddilysu ac ymgysylltu'n llawn ag arfarniad blynyddol a chynllunio datblygu personol

Gellir gohirio os oes rheswm priodol pam nad yw meddyg wedi gallu cydymffurfio â'r broses arfarnu/ail-ddilysu. Mae'r argymhelliad hwn yn caniatáu i'r meddyg gael amser pellach i gwblhau'r wybodaeth ofynnol. Mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau'r adran cyfyngiadau o'ch arfarniad er mwyn sicrhau bod yr holl ffactorau perthnasol yn cael eu hystyried.

Y cyfnod gohirio lleiaf yw 4 mis, yr uchafswm yw 12 mis.

Os yw meddyg yn methu ag ymgysylltu â'r broses arfarnu er gwaethaf mewnbwn gan y sefydliad.  Gall yr argymhelliad hwn roi  Trwydded i Ymarfer Meddygaeth meddyg mewn perygl.

Dilynwch ni