Neidio i'r prif gynnwy

Themâu'r Cynllun Pobl a Diwylliant

Mae’r Cynllun Pobl a Diwylliant 3 blynedd wedi’i lunio yn unol â strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.  O dan ei 7 thema, rydym yn gosod ein diben a’n cyfeiriad, ac yn nodi sut rydym yn mynd i’ch cefnogi o ran eich cyfraniad at y strategaeth ‘Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol’.

  1. Modelau gweithlu di-dor - cefnogi gwaith aml-broffesiynol ac amlasiantaethol drwy integreiddio gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a datblygu modelau gweithlu amgen i ddarparu dull di-dor a chydlynol gyda phartneriaid yn seiliedig ar ganlyniadau sy’n bwysig i’r person.
  1. Gweithlu ymroddedig, llawn cymhelliant ac iach - bod â gweithlu sy’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi lle bynnag y mae’n gweithio.
  2. Denu, recriwtio a chadw - recriwtio a chadw’r bobl iawn sydd â’r sgiliau iawn.
  3. Adeiladu gweithlu sy’n barod yn ddigidol - bod â gweithlu sy’n barod yn ddigidol, gyda’r dechnoleg sydd ar gael a’r sgiliau i ddefnyddio hyn yn effeithiol.
  4. Addysg a dysgu rhagorol - buddsoddi mewn addysg a dysgu i ddarparu’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion y bobl yr ydym yn gofalu amdanynt yn y dyfodol a chefnogi ein pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd.
  5. Arweinyddiaeth ac olyniaeth - bod ag arweinwyr yn y system gofal iechyd sy’n ymgorffori arweinyddiaeth gynhwysol, ar y cyd a thosturiol.
  6. Llunio a chyflenwi’r gweithlu - bod â gweithlu cynaliadwy mewn niferoedd digonol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth.
Dilynwch ni