Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Pobl a Diwylliant

Yn ystod pandemig Covid-19, rydym wedi gweld ein gweithlu yn addasu’n gyflym i’r heriau yr oeddent yn eu hwynebu.  Mae angen i ni nawr sicrhau cydbwysedd, wrth i ni ddysgu byw a gweithio gyda COVID-19, a rheoli unrhyw ofynion ychwanegol, gan gynnwys pwysau tymhorol a’r ôl-groniadau a grëwyd yn ystod y pandemig.  Bydd y galwadau a wynebir gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol dros y blynyddoedd nesaf yn wahanol i unrhyw beth yr ydym wedi ei wynebu erioed o’r blaen.  Er mwyn ateb y galw, rydym yn gwybod bod angen i ni wneud pethau’n wahanol a’n bod yn gwbl ddibynnol ar weithlu sy’n gweithredu’n greadigol ac yn arloesol i ddarparu iechyd a gofal mewn ffyrdd gwahanol, gan roi’r person wrth galon popeth a wnawn.

Cynllun Pobl a Diwylliant - 2022-25 yw ein cyfle i wella profiad staff, sicrhau bod y gwelliannau yr ydym wedi’u gwneud dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau, ac wynebu’r heriau sydd wedi codi o ganlyniad i’r pandemig a’r cyfnod adfer dilynol.  Mae’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf, gan ganolbwyntio’n glir ar wella lles, cynhwysiant, gallu ac ymgysylltiad ein gweithlu.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf bydd y gwaith yn dechrau o ddifrif i gyflawni’r amcanion hyn, a gobeithiwn y byddwch yn teimlo gwahaniaethau gwirioneddol yn sgil hyn.  Hoffem glywed eich adborth ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei newid ymhellach, felly peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’n tîm Gweithlu a Datblygu Sefydliadol gyda’ch barn a’ch safbwyntiau.

Themâu'r Cynllun Pobl a Diwylliant

Cylchlythyrau'r Cynllun Pobl a Diwylliant

Taith rithwir Pobl a Diwylliant

 

Dilynwch ni