Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth Arbenigol

Mae ein gwasanaeth gastroenteroleg a hepatoleg yn darparu gofal i drin ac atal clefydau gastroberfeddol (stumog a’r coluddion) a hepatolegol (yr afu, coden y bustl, system y bustl a’r pancreas).

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Gastroenteroleg a Hepatoleg, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/ein-gwasanaethau/gastroenterology-hepatology-and-endoscopy/

Diweddarwyd ddiwethaf  20/0722

Mae endosgopi yn hanfodol i wneud diagnosis o ganser oesoffagaidd a chanser y stumog.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
  • Mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar gapasiti llai er mwyn caniatáu i fesurau COVID-19 cyfredol gael eu dilyn.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Endosgopi, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/ein-gwasanaethau/gastroenterology-hepatology-and-endoscopy/

Newidiadau allweddol i wasanaethau mewn ymateb i COVID-19:

Mae ein gwasanaeth Endosgopi wedi bod yn cynnal clinigau ychwanegol felly gall hyn olygu y cewch eich gwahodd am apwyntiad yn ystod y penwythnos. Darllenwch eich llythyr apwyntiad yn ofalus cyn mynychu.

Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Rhywedd Cymru yn rhedeg ar gapasiti llawn.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau rhithwir, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb i gleifion.

I gysylltu â Gwasanaeth Rhywedd Cymru ffoniwch y dderbynfa ar 029 2183 6619 neu e-bostiwch: cav.wgs_enquiries@wales.nhs.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf 16/05/22

Mae ein gwasanaeth dermatoleg yn gyfrifol am atal, gwneud diagnosis a thrin cyflyrau dermatolegol (croen).

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae pob gwasanaeth yn rhedeg, ar wahân i’r gwasanaeth laser sydd wedi’i atal ar hyn o bryd.
  • Mae’r Gwasanaeth Dermatoleg yn rhedeg ar gapasiti llawn ac mae pethau wedi dychwelyd i drefn.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

Cysylltu â’r gwasanaeth:

  • Os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio ac yn aros am apwyntiad, ffoniwch: 02920 744619.
  • Os ydych chi’n hysbys i’r gwasanaeth a bod gennych orchuddion neu gyflyrau hirdymor y mae angen cyngor arnoch yn eu cylch, ffoniwch y Ganolfan Triniaeth Uned Ddydd Dermatoleg: 02921 848731.
  • Gellir dod o hyd i daflenni ar lawer o gyflyrau dermatolegol o BAD Patient Hub a DermNet NZ.

Diweddarwyd diwethaf 01/12/22

Mae ein gwasanaeth rhiwmatoleg yn gyfrifol am wneud diagnosis a thrin clefydau arthritig a rhiwmatig.

Statws Cyfredol y Gwasanaeth:

  • Mae’r holl wasanaethau yn rhedeg ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw wasanaethau wedi’u hatal.
  • Mae’r Gwasanaeth Rhiwmatoleg yn rhedeg ar gapasiti llawn ac mae pethau wedi dychwelyd i drefn.
  • Cynigir cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb, rhithwir a/neu dros y ffôn i gleifion.

Cysylltu â’r gwasanaeth:

  • Os ydych chi’n hysbys i’r gwasanaeth a bod angen cyngor arnoch ynghylch symptomau sy’n gwaethygu neu drwythiadau, ffoniwch: 02920 748 191
  • Os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio ac yn aros am apwyntiad, ffoniwch: 02920 748181
  • Gwefan ddefnyddiol i gael gwybodaeth: https://www.versusarthritis.org/covid-19-updates/

Diweddarwyd diwethaf 01/12/22

Dilynwch ni