Neidio i'r prif gynnwy

Neges gyhoeddus i gymunedau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – Gweithredu Diwydiannol 

Ddydd Mercher 21 Rhagfyr bydd y GMB yn mynd ar streic a fydd yn effeithio ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac yn effeithio ymhellach ar wasanaethau ehangach y GIG, sydd eisoes dan bwysau sylweddol.  

Fel Bwrdd Iechyd Lleol roeddem am sicrhau bod cymunedau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg yn gallu cynnal eu hunain a’i gilydd orau y gallant. I gefnogi gwasanaethau a chydweithwyr, mae arnom angen eich help i sicrhau y gallwn barhau i ofalu am y cleifion mwyaf sâl o dan amgylchiadau cynyddol heriol.  

Rydym yn gwerthfawrogi y gallech fod yn bryderus os ydych chi, neu aelod o'ch teulu'n teimlo'n sâl, ond yn ystod streic, gofynnwch i chi'ch hun a oes angen triniaeth neu ofal arnoch heddiw, neu a all aros nes bod y streic wedi dod i ben. Drwy ddewis a chael mynediad priodol at wasanaethau, byddwn yn gallu gofalu am y rhai sydd ein hangen fwyaf.   

Bydd gweithredu diwydiannol y GMB yn effeithio'n ddifrifol ar y gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig wrth ymateb i alwadau 999. Mae’n gwbl hanfodol bod pobl ond yn ffonio 999 os yw’n argyfwng neu’n sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol. Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cyhoeddi canllawiau clir ond bydd hyn hefyd yn effeithio ar gartrefi gofal a'r rhai sy'n gofyn am gymorth yn y gymuned. Bydd galw sylweddol hefyd ar linellau ffôn GIG 111 Cymru felly disgwyliwch aros yn hirach a byddwch yn garedig wrth gydweithwyr.  

Mae llawer o ffyrdd y gallwch ein cefnogi yn ystod y streic a’r amseroedd digynsail hyn, gyda salwch anadlol yn cylchredeg a galw uwch ar wasanaethau:  

  • Y ffliw a COVID-19 – helpwch ni i’ch helpu chi drwy gael eich brechlyn rhag y ffliw, os ydych chi’n gymwys, neu sicrhau, os oes gennych chi anwylyd mewn cartref gofal, eu bod wedi cael y brechiadau diweddaraf. Cael eich brechu yw’r amddiffyniad gorau rhag salwch difrifol. Darganfyddwch fwy yma.   

  • Fel rhiant, rydym yn gwerthfawrogi y byddwch yn poeni os bydd eich plentyn yn sâl, ond a fyddech cystal â dilyn y cyngor a’r arweiniad ar gyfer Grŵp A Streptococcus a’r Dwymyn Goch, gan gynnwys defnyddio’r gwiriwr symptomau ar GIG 111 Cymru fel man cychwyn os yw’ch plentyn yn sâl. Dim ond os yw'ch plentyn yn sâl iawn neu'n profi’r prif symptomau y dylech chi ddod i'r Uned Achosion Brys Pediatrig fel y gall ein cydweithwyr gefnogi'r rhai sydd ein hangen fwyaf.   

  • Os oes gennych chi anwylyd yn yr ysbyty, sydd wedi'u datgan yn feddygol ffit i fynd adref, ewch â nhw adref. Mae cyflwr llawer o gleifion yn dirywio'n sylweddol pan fyddant yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy nag sydd angen. Mae’r Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol yn gwneud yr hyn a allant i wella pecynnau gofal a gofal cymdeithasol, ond mae angen i deuluoedd barhau i weithio’n agos gyda ni a gallai hyn olygu cyfaddawdu ar becynnau gofal am gyfnod o amser nes ein bod yn gallu cynnig pecynnau mwy cynhwysfawr. 

Fel cymuned mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cyd-dynnu i gefnogi gwasanaethau brys hanfodol y GIG dros y 24-48 awr nesaf ac rydym yn apelio ar gymunedau i wneud y canlynol lle bynnag y bo modd i reoli’r galw ar wasanaethau rheng flaen:   

  • Hunanofal. Gofalwch amdanoch chi'ch hun a'ch anwyliaid, sicrhewch bod eich pecyn cymorth cyntaf yn llawn, cadwch yn gynnes ac yfwch ddigon o ddŵr, a defnyddiwch feddyginiaethau dros y cownter neu'r cynllun anhwylderau cyffredin i gefnogi hunanofal.   

  • Defnyddiwch y cyfrwng digidol yn gyntaf a gwiriwch eich symptomau gan ddefnyddio Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru.   

  • Byddwch yn ymwybodol o'r mynediad a'r gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, a ble y gallwch chi gael mynediad at wasanaeth yn uniongyrchol.    

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi gwneud ei safbwynt yn glir ar weithredu diwydiannol, rydym yn parchu hawl pobl i fynd ar streic, a byddwn yn parhau i gefnogi’r rhai sy’n dewis gweithio yn ystod y gweithredu diwydiannol. Byddwn yn parhau i wneud ein gorau i leihau’r effaith ar gleifion ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn apelio ar y gymuned i weithio gyda ni a dim ond defnyddio’r gwasanaethau os yw’n achos sy’n peryglu bywyd ac na allwch aros.  

Yn ôl ein dealltwriaeth ni, bydd y cleifion mwyaf sâl yn parhau i gael eu blaenoriaethu ond efallai y bydd gofyn i rai cleifion wneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty. Bydd y tîm cynllunio gweithredol yn asesu’r sefyllfa hon yn barhaus a’r pwysau ychwanegol y bydd yn ei roi ar wasanaethau presennol y GIG, yn enwedig gofal brys a gofal mewn argyfwng. Gofynnwn yn barchus i bawb wneud eu rhan a gwneud eu gorau i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn iach a diogel.  

Mae hwn yn gyfnod eithriadol o heriol i gydweithwyr ar draws ein gwasanaethau iechyd ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymdrechion parhaus sy’n cael eu gwneud o dan amgylchiadau mor anodd, sydd wedi’i gydnabod gan gydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, gallwch ddod o hyd i’w datganiad yma.  

Mae manylion llawn y newidiadau i wasanaethau ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac wrth i’r sefyllfa ddatblygu byddant yn cael eu rhannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

 

Charles Janczewski, Cadeirydd

Suzanne Rankin, Prif Weithredwr

Dilynwch ni