Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau Gwasanaeth yn ystod Gweithredu Diwydiannol

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023 

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wedi cadarnhau y bydd aelodau cymwys yn cynnal cyfnod o 12 awr o weithredu diwydiannol ar y y 6ed a’r 7fed o Fehefin mewn anghydfod parhaus gyda Llywodraeth Cymru a Chyflogwyr y GIG ynghylch cyflog ac amodau gwaith presennol.  

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn parchu hawl cydweithwyr i gefnogi neu gymryd rhan mewn streic cyfreithlon mewn modd heddychlon a diogel, ac rydym yn cydnabod pam mae rhai cydweithwyr wedi pleidleisio o blaid streic o ystyried bod hwn yn gyfnod heriol i lawer, yn enwedig yn ystod y cynnydd mewn costau byw. 

Mae’r RCN wedi cadarnhau dau safle swyddogol ar gyfer protestio heddychlon sef: 

  •   Tŷ Maeth (adeilad y Coleg Nyrsio Brenhinol) wedi'i leoli ar Rodfa Brenin Siôr (Dwyrain), Caerdydd 
  •   Yn union y tu allan i fynedfa Ysbyty Athrofaol Llandochau.       

  Yn ystod gweithredu diwydiannol, rydym yn rhagweld y bydd effaith andwyol ehangach ar draws gwasanaethau'r GIG (sydd eisoes dan bwysau sylweddol a pharhaus). I gefnogi gwasanaethau a chydweithwyr rydym yn galw ar ein cymunedau ar draws Caerdydd a’r Fro i gefnogi eu hunain hyd eithaf eu gallu i’n helpu i barhau i ofalu am y cleifion mwyaf sâl o dan amgylchiadau cynyddol heriol.  

Rydym yn cydnabod y gallech fod yn bryderus os ydych chi, neu aelod o’ch teulu’n teimlo’n sâl, ond yn ystod streic, gofynnwch i chi’ch hun a oes angen triniaeth neu ofal arnoch heddiw, neu a all aros nes bod y streic wedi dod i ben. Drwy ddewis a chael mynediad priodol at wasanaethau, byddwn yn gallu gofalu am y rhai sydd ein hangen fwyaf. 

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn rhwystredig i'n grwpiau cleifion, yn enwedig pan fu arosiadau hir am driniaeth, ond rydym yn gobeithio bod y cyhoedd yn deall bod angen i ni gadw gwasanaethau'n ddiogel. 

Darllenwch y wybodaeth isod a fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf am wasanaethau allweddol a mynediad at ofal iechyd. 

Apwyntiadau cleifion allanol

Cysylltir â phob claf sy'n disgwyl triniaeth neu apwyntiadau ar naill ai’r 6ed neu 7fed o Fehefin drwy neges destun i'w hysbysu os bydd eu hapwyntiad wedi’i ganslo.

Os na fyddwch yn clywed gennym, bydd eich apwyntiad yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd.

Bydd unrhyw apwyntiadau sy'n cael eu canslo yn cael eu haildrefnu a byddwn yn cysylltu â chleifion gyda dyddiad newydd. Bydd llythyrau dilynol yn cael eu hanfon yn y post i gadarnhau hyn a gall ein timau hefyd gysylltu â’r rhai yr effeithir arnynt dros y ffôn.

Gofal brys a gofal heb ei drefnu

Uned Achosion Brys

Tra bydd y gwasanaethau brys yn parhau, rydym yn rhagweld cynnydd yn y galw a allai arwain at arosiadau hirach nag arfer. Meddyliwch a oes angen i chi ddod i’r Uned Achosion Brys neu os gallwch chi gael gafael ar gyngor neu ofal arall yn eich fferyllfa gymunedol. 

Os byddwch yn cyrraedd yr Uned Achosion Brys byddwch yn cael eich brysbennu wrth y drws gan uwch glinigwr ac os nad oes angen gofal brys ar eich cyflwr efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arall fel GIG 111 Cymru neu eich fferyllfa gymunedol. Mae rhestr o fferyllfeydd cymunedol sydd ar gael y tu allan i oriau i'w gweld yma. 

Er y bydd ein staff yn yr Uned Achosion Brys yn brysur yn gofalu am gleifion, os ydych yn teimlo eich bod wedi bod yn aros am gyfnod hir ac nad ydych wedi cael unrhyw ddiweddariadau, siaradwch ag aelod o staff. Hoffem hefyd eich atgoffa i fod yn garedig â’n staff sy’n gweithio’n hynod o galed mewn amgylchiadau heriol. 

Gellir trin y rhan fwyaf o fân salwch gartref gan ddefnyddio meddyginiaeth dros y cownter sydd ar gael yn eich fferyllfa gymunedol, gallwch hefyd brynu meddyginiaethau fel paracetamol a Calpol o archfarchnadoedd, felly rydym yn eich annog i wneud yn siŵr bod gennych feddyginiaethau gartref i ofalu amdanoch eich hun a’ch teulu.  

Os nad ydych yn siŵr pa ofal sydd ei angen arnoch, defnyddiwch Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru yn gyntaf lle gallwch gael cyngor gofal iechyd.  

Sylwch, efallai y bydd galwadau i wasanaeth GIG 111 Cymru yn cymryd mwy o amser nag arfer i’w hateb gan y rhai sy’n delio â galwadau yn ystod gweithredu diwydiannol, felly byddwch yn barod am amseroedd aros hirach a byddwch yn garedig wrth gydweithwyr.

Gwasanaeth Ambiwlans

Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn cymryd rhan mewn streic ac felly ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn yn ddoeth a ffoniwch 999 dim ond mewn achosion o argyfwng gwirioneddol neu sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r gwiriwr symptomau ar GIG 111 Cymru fel man cychwyn os yw’ch plentyn yn sâl. Dim ond os yw’ch plentyn yn sâl iawn neu’n profi’r prif symptomau y dylech chi ddod i’r Uned Achosion Brys Pediatrig fel y gall ein cydweithwyr gefnogi’r rhai sydd angen cymorth meddygol brys. 

• Hunanofal. Gofalwch amdanoch chi’ch hun a’ch anwyliaid, yfwch ddigon o ddŵr, a defnyddiwch feddyginiaethau dros y cownter neu’r cynllun anhwylderau cyffredin i gefnogi hunanofal. 

• Defnyddiwch y cyfrwng digidol yn gyntaf a gwiriwch eich symptomau gan ddefnyddio Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru. 

• Byddwch yn ymwybodol o’r mynediad a’r gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, a ble y gallwch chi gael mynediad at wasanaeth yn uniongyrchol.  

Canolfannau Brechu Torfol 

Yn anffodus bydd y canolfannau brechu torfol yn cael eu cau yn ystod y streic ddiwydiannol (6ed a 7fed o Fehefin). Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.   

Cysylltir ag unrhyw un sydd i fod i gael eu brechiad ar y dyddiadau hyn a chynnig apwyntiad arall iddynt.  

Fel arall, gall carfannau cymwys (pobl dros 75 oed, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn, a’r rhai sy’n bump oed a throsodd sy’n imiwnoataliedig) hefyd alw heibio i’r ganolfan brechu torfol sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty’r Barri neu yn Nhŷ Coetir i gael eu brechu heb orfod trefnu apwyntiad. 

Gyrru i'n safleoedd

Os ydych yn mynychu ein safleoedd, cofiwch ei fod yn safle gweithredol ac y bydd yn brysur felly ymgyfarwyddwch â’r meysydd parcio a’r mynedfeydd a’r allanfeydd. 

Y flaenoriaeth ar y safle fydd cael ambiwlansys i’n Huned Achosion Brys i ddarparu triniaeth i gleifion. 

Dilynwch ni