Dylid cydnabod bod plant yng Nghymru'n cael gofal arenneg bediatrig trydyddol gan nifer o ganolfannau a hynny ar sail daearyddiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd; Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl; Ysbyty Plant Birmingham ac Ysbyty Plant Bryste.
Mae'r canllawiau isod (dogfennau Saesneg yn unig) yn cael eu cynhyrchu dan nawdd Ysbyty Athrofaol Cymru ac maent wedi'u hanelu at adrannau pediatrig yn ysbytai de a gorllewin Cymru sy'n gofalu am gleifion ar y cyd â'r uned yng Nghaerdydd. Os bydd cleifion yn derbyn gofal gan ganolfannau eraill, bydd angen i chi gyfeirio at eu canllawiau nhw.
Canllaw ar gyfer asesu proteinwria
Canllaw ar gyfer rheoli anaf acíwt i'r arennau
Canllaw ar gyfer rheoli anaf acíwt i'r arennau yn y baban newydd-anedig
Canllaw ar gyfer rheoli gwaed yn y dŵr/hematwria
Canllaw ar gyfer rheoli pwrpwra Henoch Schonlein
Canllaw ar gyfer rheoli hypernatraemia
Canllaw ar gyfer rheoli gorbwysedd
Canllaw ar gyfer rheoli hyponatraemia
Canllaw ar gyfer rheoli asidosis metabolaidd
Canllaw ar gyfer rheoli syndrom neffrotig
Canllaw ar gyfer rheoli cerrig ar yr arennau
Canllaw ar gyfer mesur pwysedd gwaed
Canllaw ar gyfer rheoli clefyd cronig yr arennau - anhwylder mwynau ac esgyrn (CKD-MBD)
Canllaw ar gyfer rheoli anemia
Canllaw ar gyfer rheoli Syndrom wremig hemolytig (HUS)
Canllaw ar gyfer rheoli hyperlipidaemia mewn plant â chlefyd yr arennau
Canllaw ar gyfer rheoli diffyg fitamin D mewn Clefyd Cronig yr Arennau
Rydym wrthi'n adolygu ein holl ganllawiau presennol a bydd yr uchod yn cael eu diweddaru pan fyddant ar gael.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am ganllaw penodol, e-bostiwch Dr Graham Smith ar Graham.Smith3@wales.nhs.uk.
Cynhyrchwyd y canllawiau hyn yn ddidwyll gan yr awdur(on), gan adolygu'r holl dystiolaeth/farn sydd ar gael. Fe'u lluniwyd i'w defnyddio gan arenegwyr pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar gyfer plant yn eu gofal. Nid ydynt yn bolisïau nac yn brotocolau a bwriedir iddynt fod yn ganllawiau yn unig. Ni fwriedir iddynt ddisodli crebwyll cinigol na phennu gofal cleifion unigol. Mae'r cyfrifoldeb a'r penderfyniadau (gan gynnwys gwirio dosys cyffuriau) ynghylch claf penodol yn perthyn i'r meddyg a'r staff sy'n gofalu am y claf penodol hwnnw.