1. Enw
Enw'r grŵp fydd Rhwydwaith Clinigol Cymru ar gyfer Arenneg Bediatrig (WCNPN).
Diben WCNPN yw gwella'r ddarpariaeth gofal arenneg bediatrig i blant Cymru a'u teuluoedd. Bydd yn cyflawni hyn trwy annog rhannu arfer da rhwng gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau.
Mae cysylltiad rhwng ysbytai gogledd Cymru ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, sy'n darparu gofal trydyddol i gleifion arennol pediatrig. Yn ne Cymru, y ganolfan atgyfeirio drydyddol yw Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae arenegwyr pediatrig o'r canolfannau trydyddol perthnasol yn cynnal clinigau lleol ar y cyd mewn ysbytai cyffredinol dosbarth ledled Cymru.
Mae aelodaeth o'r WCNPN ar gael i bawb sy'n ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau yng Nghymru.
Rhagwelir y bydd pob ysbyty yng Nghymru'n enwebu clinigydd i chwarae rôl flaenllaw mewn Arenneg Bediatrig a bod yn bwynt cyswllt yn ei uned. Bydd y clinigydd neu ddirprwy enwebedig yn mynychu cyfarfodydd WNCPN.
Mae gofal plant â chlefyd yr arennau yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol a chaiff nyrsys, dietegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion chwarae a seicolegwyr eu hannog i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd WCNPN, a byddai cynrychiolwyr o bob grŵp o weithwyr proffesiynol yn cael gwahoddiad i fynychu.
Mae gwasanaethau clinigol eraill yn ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau hefyd a bydd cyfraniadau o dimau wroleg bediatrig, radioleg a thimau eraill yn cael eu hannog.
Bydd cynrychiolwyr cleifion a rhieni'n cael eu cyfethol i fynychu cyfarfodydd.
Cadeirydd – Wedi'i ethol am dymor 3 blynedd. Bydd aelodau o bob un o'r saith Bwrdd Iechyd yn pleidleisio dros y Cadeirydd, gydag un bleidlais fesul ysbyty. Bydd y Cadeirydd nesaf yn cael ei ethol o leiaf chwe mis cyn bod y Cadeirydd presennol yn gadael y rôl i sicrhau dilyniant.
Ysgrifennydd / Trysorydd - Wedi'i ethol am dymor 3 blynedd. Bydd aelodau o bob un o'r saith Bwrdd Iechyd yn pleidleisio dros yr Ysgrifennydd, gydag un bleidlais fesul ysbyty. Bydd yr Ysgrifennydd nesaf yn cael ei ethol o leiaf chwe mis cyn bod yr Ysgrifennydd presennol yn gadael y rôl i sicrhau dilyniant.
Bydd dau gyfarfod busnes bob blwyddyn, gydag un ohonynt yn cynnwys prynhawn addysg.
Bydd cworwm yn bresennol yn y cyfarfodydd os bydd y cadeirydd a'r ysgrifennydd, a 3 aelod arall yn bresennol.
Bydd WCNPN yn cyflawni ei nod ddymuniedig, sef gwella gofal plant â chlefyd yr arennau yng Nghymru, trwy: