Croeso i Rwydwaith Clinigol Cymru ar gyfer Arenneg Bediatrig (WCNPN).
O fewn y wefan hon, cewch ddolenni i wybodaeth am:
- weithgareddau presennol y rhwydwaith
- canllawiau a llwybrau gofal i weithwyr proffesiynol
- pynciau'n gysylltiedig â theuluoedd a gofalwyr
- cylchlythyron y rhwydwaith a chyhoeddiadau eraill
- sefydliadau cysylltiedig a pherthnasol eraill
Hefyd, rydym wedi creu tudalen benodol i ddarparu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol, rhieni a chleifion am COVID-19, gan gyfeirio'n benodol at gleifion â chlefyd yr arennau. Cliciwch yma.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am glinigau rhithwir.
Mae aelodaeth o'r WCNPN ar gael i'r holl aelodau staff sy'n ymwneud â gofal plant â chlefyd yr arennau. Croesewir cyfraniadau gan gleifion a'u teuluoedd hefyd. Nod y rhwydwaith yw sicrhau bod gofal o'r safon uchaf yn cael ei gyflwyno'n deg i blant â chlefyd yr arennau ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd y rhwydwaith hwn yn helpu i ddarparu'r gofal hwn mor agos â phosibl at gartref y plentyn.