Cafodd ein Bwrdd Ieuenctid ei ffurfio yn 2018, gan roi llais i bobl ifanc ardal Caerdydd a’r Fro a sicrhau eu bod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau allweddol, gan newid ffyrdd o weithredu a gwella gwasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd.
Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn cynnwys gwirfoddolwyr ifanc rhwng 13 a 25 oed o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau ar draws Caerdydd a’r Fro, gyda phob un yn dod â’u profiad, gwybodaeth a’u barn werthfawr eu hunain i’r bwrdd i’w trafod.
Rydym yn gwerthfawrogi Gwirfoddolwyr y Bwrdd Ieuenctid yn fawr iawn a’r persbectif ffres maent yn ei gynnig i’r Bwrdd Iechyd; mae eu hawgrymiadau arloesol a’u barn wybodus yn cynnig mewnwelediad gwych ac yn cael effaith enfawr ar y pynciau yr ymgynghorir â nhw yn eu cylch.
Mae grym ieuenctid yn bwysig … os ydych chi rhwng 13 a 25 oed, beth am gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed!
Mae ceisiadau i ymuno â’n Bwrdd Ieuenctid bellach ar agor, gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal yn ystod Hanner Tymor Chwefror – nawr yw’r amser i wneud cais am y rôl wirfoddoli amhrisiadwy hon! Gwnewch gais yma >>>
Bwrdd Ieuenctid Ceisiadau Nawr
Ceisiadau'n cau ar 10/02/2025. Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl.
Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, neu gefnogaeth bellach i wneud y broses recriwtio’n fwy hygyrch i’ch anghenion, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol i drafod sut allwn ni eich helpu.
@CAV_PETeam
E-bost: Volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk
Ffon: 029 218 45692
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.