Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddoli ar y Bwrdd Ieuenctid

Beth yw Bwrdd Ieuenctid?

Cafodd ein Bwrdd Ieuenctid ei ffurfio yn 2018, gan roi llais i bobl ifanc ardal Caerdydd a’r Fro a sicrhau eu bod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau allweddol, gan newid ffyrdd o weithredu a gwella gwasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd.

Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn cynnwys gwirfoddolwyr ifanc rhwng 13 a 25 oed o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau ar draws Caerdydd a’r Fro, gyda phob un yn dod â’u profiad, gwybodaeth a’u barn werthfawr eu hunain i’r bwrdd i’w trafod.

Rydym yn gwerthfawrogi Gwirfoddolwyr y Bwrdd Ieuenctid yn fawr iawn a’r persbectif ffres maent yn ei gynnig i’r Bwrdd Iechyd; mae eu hawgrymiadau arloesol a’u barn wybodus yn cynnig mewnwelediad gwych ac yn cael effaith enfawr ar y pynciau yr ymgynghorir â nhw yn eu cylch.

 

Diddordeb?

Mae grym ieuenctid yn bwysig … os ydych chi rhwng 13 a 25 oed, beth am gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed!

Cofiwch gadw llygad allan am ddiweddariadau ar gyfer dyddiadau recriwtio yn y dyfodol, neu, os ydych dros 16 oed, edrychwch ar rai o'n rolau eraill a fydd ar gael yn y dyfodol agos, megis: y Prosiect Haf i Bobl ifanc, Gwirfoddolwr Cwrdd a Chyfarch, ac ati. Gallwch hefyd ddilyn ein tudalen Twitter i gael diweddariadau recriwtio rheolaidd.

@CAV_PETeam

E-bost: Volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk 

Ffon: 029 218 45692

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.