Hoffai Tîm Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro groesawu darpar wirfoddolwyr o'r gymuned awtistiaeth i ddod i rannu eu profiad personol gyda ni. Rydym wrthi'n datblygu ein rhaglen wirfoddoli a nod ein gwasanaeth yw cael tîm o wirfoddolwyr all rannu eu gwybodaeth a'u profiad o fod yn berson awtistig gyda phobl sydd newydd gael diagnosis a'r rhai sy'n dod at y tîm i ofyn am gymorth.
Ceisiadau’n agor nesaf yn 2026.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ddisgrifiad rôl Gwirfoddolwyr IAS.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ewch i'w tudalen we.