Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn

Gwirfoddoli mewn Cyfleoedd Iechyd Meddwl

Gwirfoddolwr Gweithgaredd Ystyrlon

Bydd angen i Wirfoddolwyr Gweithgareddau Ystyrlon fod yn hyderus ac yn ddyfeisgar wrth addasu eu gweithgareddau i weddu i ddiddordebau a galluoedd cleifion unigol, a bod yn amyneddgar wrth gyfathrebu. Sylwch fod yn rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i wneud cais am y rôl hon.

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn cyn gwneud cais.

 

MHSOP Ysbyty Llandochau

Mae MHSOP yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddiwallu anghenion unigol, cefnogi dewis a gwella lles pobl â dementia neu salwch iechyd meddwl difrifol gweithredol ar ôl 65 oed.

Bydd gwirfoddolwyr yn ymgysylltu’n ystyrlon â chleifion trwy weithgareddau, naill ai 1:1 neu mewn grwpiau bach, yn yr Ystafell Ddydd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys posau a gemau, celf a chrefft, gweithgareddau tymhorol (e.e. creu cardiau Nadolig, addurniadau Sant Ffolant) a hel atgofion.

Gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn helpu’r Nyrs Ailgyfeirio ar y ward i gyflawni gweithgareddau ac ymgysylltiad ystyrlon fel grwpiau cymdeithasol/cyfeillgarwch, grwpiau gweithgarwch corfforol (e.e. coetiau a sgitls).

Bydd y rôl yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn cynnwys ymgysylltu â chleifion a fydd ag anghenion a lefelau gweithredu amrywiol ac felly bydd angen gwirfoddolwyr dyfeisgar sy’n gyfathrebwyr hyderus ac amyneddgar.

 

Gyfer Dementia Cynnar (YOD) Ysbyty’r Barri

Mae gan MHSOP uned arbenigol yn Ysbyty’r Barri hefyd ar gyfer Dementia Cynnar (YOD). Mae’r Gwasanaeth Dementia Cynnar yn wasanaeth arbenigol ac ymroddedig i bobl sy’n derbyn diagnosis o ddementia o dan 65 oed.

Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn ymgysylltu’n ystyrlon â chleifion trwy weithgareddau, naill ai 1:1 neu mewn grwpiau bach, yn yr Ystafell Ddydd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys posau a gemau, celf a chrefft, gweithgareddau tymhorol (e.e. creu cardiau Nadolig, addurniadau Sant Ffolant) a grwpiau papur newydd boreol.

Gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn helpu’r Nyrs Ailgyfeirio ar y ward i gyflawni gweithgareddau ac ymgysylltiad ystyrlon fel grwpiau cymdeithasol/cyfeillgarwch, grwpiau gweithgarwch corfforol (e.e. coetiau a sgitls).

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda Chlybiau Cinio a Grwpiau Papur Newydd Boreol.

Bydd y rôl gyda YOD yn cynnwys ymgysylltu â chleifion a fydd ag anghenion a lefelau gweithredu amrywiol ac felly bydd angen gwirfoddolwyr dyfeisgar sy’n hyderus wrth gyfathrebu â chleifion di-eiriau.

 

 

Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw'r hawl i newid dyddiad cau'r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl. Darllenwch y dudalen we Canllawiau Ymgeisio cyn gwneud cais am y rôl hon.