Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Sylwch fod yn rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wirfoddoli yn y rôl hon

Nid yw'r rôl hon yn briodol i'r rhai sydd â phrofiad byw o'r wardiau iechyd meddwl.

Darllenwch y dudalen we Canllawiau Ymgeisio cyn gwneud cais am y rôl hon.
 

Gwirfoddolwr Tîm Gweithgareddau

Mae'r Tîm Gweithgareddau yn dîm ymroddedig o staff sy'n darparu gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar adferiad i hyrwyddo hunan-barch ac annog ymgysylltiad cadarnhaol â staff gofal iechyd ac ymyriadau. Nod y Tîm Gweithgareddau yw sicrhau bod profiad y claf o ansawdd uchel.

Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi staff i hwyluso gweithgareddau strwythuredig yn uned iechyd meddwl Hafan-y-Coed. Gallai'r rhain gynnwys helpu cleifion i gymryd rhan mewn:  grwpiau garddio; grwpiau celf; grwpiau iechyd a harddwch; grwpiau cerddoriaeth; chwarae gemau bwrdd; grwpiau cymdeithasol; a sesiynau chwaraeon (fel rygbi cerdded).

Darllenwch y disgrifiad rôl llawn yma.

 

 

Bydd lleoedd yn gyfyngedig, a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad anffurfiol yn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau.