Neidio i'r prif gynnwy

Sepsis

Amcangyfrifir bod sepsis yn effeithio ar fwy na 260,000 o bobl y flwyddyn yn y DU, ac y bydd o leiaf 48,000 o'r rheini yr effeithiwyd arnynt yn marw. Mae'n lladd mwy o bobl bob blwyddyn yn y DU na chanserau'r fron, y coluddyn a'r brostad gyda'i gilydd.

Gall sepsis arwain at sioc, methiant nifer o organau a marwolaeth, yn enwedig os nad yw'n cael ei adnabod yn gynnar a'i drin yn fuan. Gall sepsis ddigwydd yn dilyn heintiau'r frest neu ddŵr, problemau yn yr abdomen fel wlserau wedi byrstio, neu anafiadau croen syml fel briwiau a chnoadau.

Mae 10,000 o achosion o Sepsis ymhlith plant bob blwyddyn, a 1000 yn marw.
 

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran A&E os oes gan faban neu blentyn ifanc unrhyw un o symptomau canlynol sepsis:

  • croen, gwefusau neu dafod glas, gwelw neu flotiog
  • brech nad yw'n diflannu pan fyddwch yn rholio gwydr drosti
  • anhawster anadlu (gallech sylwi ar synau rhochian neu ei stumog yn sugno i mewn o dan ei gawell asennau), diffyg anadl neu anadlu'n gyflym iawn
  • cri wan, fain sy'n wahanol i'w gri arferol
  • nid yw'n ymateb yn ei ffordd arferol, neu ddim diddordeb mewn bwydo neu weithgareddau arferol
  • bod yn fwy cysglyd nag arfer neu'n anodd ei ddeffro

Efallai na fydd ganddo bob un o'r symptomau hyn.

 

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran A&E os oes gan oedolyn neu blentyn hŷn unrhyw un o symptomau canlynol sepsis:

  • ymddwyn yn ddryslyd, lleferydd aneglur neu ddim yn gwneud synnwyr
  • croen, gwefusau neu dafod glas, gwelw neu flotiog
  • brech nad yw'n diflannu pan fyddwch yn rholio gwydr drosti, yr un fath â meningitis
  • anhawster anadlu, diffyg anadl neu anadlu'n gyflym iawn

 

Efallai na fydd ganddo bob un o'r symptomau hyn.
 

Ffoniwch GIG 111 Cymru 

Os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych yn gofalu amdano:

  • yn teimlo'n sâl iawn neu fel bod rhywbeth mawr o'i le
  • heb basio dŵr drwy'r dydd (o ran oedolion a phlant hŷn) neu yn ystod y 12 awr diwethaf (o ran babanod a phlant ifanc)
  • yn chwydu o hyd ac nid yw'n gallu cadw unrhyw fwyd na llaeth i lawr (o ran babanod a phlant ifanc)
  • mae'r ardal o amgylch toriad neu glwyf wedi chwyddo, yn goch neu'n boenus
  • mae ganddo dymheredd uchel neu dymheredd isel iawn, mae'n teimlo'n boeth neu'n oer wrth gyffwrdd ag ef, neu'n crynu

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth:

Stori Sam

Cafodd mab Rebecca Howells, o'r enw Sam, Sepsis pan oedd yn bedair blwydd oed yn dilyn pwl o niwmonia. Er ei fod yn nannedd anfanteision, trechodd Sam y cyfan a goresgyn siawns 5% o oroesi, gan wynebu niwed i'r ymennydd, trychiadau a syndrom dan glo yn ystod ei salwch. Mae'n wyth mlwydd oed bellach, ac mae wedi cael naw llawdriniaeth yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, ac erbyn hyn mae'n mynd ar gefn ei feic ac yn cymryd rhan mewn mabolgampau. 

Mae Rebecca yn awyddus i hybu ymwybyddiaeth am Sepsis fel nad oes rhaid i neb ddioddef fel y gwnaeth ei theulu hi bedair blynedd yn ôl.

Gallwch wylio stori Sam isod.

 

 

   


 

     

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni