Neidio i'r prif gynnwy

Sepsis

Amcangyfrifir bod sepsis yn effeithio ar fwy na 260,000 o bobl y flwyddyn yn y DU, ac y bydd o leiaf 44,000 o'r rheini yr effeithiwyd arnynt yn marw. Mae'n lladd mwy o bobl bob blwyddyn yn y DU na chanserau'r fron, y coluddyn a'r brostad gyda'i gilydd.

Gall sepsis arwain at sioc, methiant nifer o organau a marwolaeth, yn enwedig os nad yw'n cael ei adnabod yn gynnar a'i drin yn fuan. Gall sepsis ddigwydd yn dilyn heintiau'r frest neu ddŵr, problemau yn yr abdomen fel wlserau wedi byrstio, neu anafiadau croen syml fel briwiau a chnoadau.

Mae 10,000 o achosion o Sepsis ymhlith plant bob blwyddyn, a 1000 yn marw.

 

Stori Sam

Cafodd mab Rebecca Howells, o'r enw Sam, Sepsis pan oedd yn bedair blwydd oed yn dilyn pwl o niwmonia. Er ei fod yn nannedd anfanteision, trechodd Sam y cyfan a goresgyn siawns 5% o oroesi, gan wynebu niwed i'r ymennydd, trychiadau a syndrom dan glo yn ystod ei salwch. Mae'n wyth mlwydd oed bellach, ac mae wedi cael naw llawdriniaeth yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, ac erbyn hyn mae'n mynd ar gefn ei feic ac yn cymryd rhan mewn mabolgampau. 

Mae Rebecca yn awyddus i hybu ymwybyddiaeth am Sepsis fel nad oes rhaid i neb ddioddef fel y gwnaeth ei theulu hi bedair blynedd yn ôl.

Gallwch wylio stori Sam isod.

 

Cewch wybod rhagor am Sepsis drwy glicio'r delweddau isod.
 

Sepsis Alliance Logo The UK Sepsis Trust