Mae'r gwasanaeth MRI yn BIP Caerdydd a'r Fro yn gweithredu pum sganiwr MRI wedi'u gwasgaru ar draws tri safle.
Mae'r sganwyr MRI yn gweithredu rhwng 08.00-20.00, 7 diwrnod yr wythnos.
Y llinell ymholiadau MRI yw 02921 846990. Mae ar agor Llun-Gwener 9 am-5pm.
Os na allwch ddod i'ch apwyntiad neu os hoffech newid amser eich apwyntiad, cysylltwch â ni.
Marie Glyn Jones
Mae sganiwr MRI yn defnyddio maes magnetig cryf iawn a thonnau radio i gynhyrchu delweddau o'r corff. Gellir defnyddio'r delweddau hyn ar gyfer gwneud diagnosis o nifer fawr o batholegau a'u defnyddio i gynllunio triniaethau. Nid yw'r MRI yn defnyddio ymbelydredd ïoneiddio fel pelydrau-x, ac nid oes unrhyw risgiau iechyd hirdymor hysbys.
Mae ein taflen wybodaeth i gleifion yn darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar yr hyn i'w ddisgwyl wrth fynychu apwyntiad MRI.