Rwy'n ysgrifennu'r e-bost hwn i fynegi fy modlonrwydd mawr gyda'r driniaeth a gefais yn ddiweddar pan gefais fy nerbyn i Ward Gyswllt A3 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Rwy'n ysgrifennu hwn yn bennaf mewn perthynas â'r staff nyrsio (gan gynnwys pob gradd o nyrsys a chynorthwywyr, nid wyf yn hollol siŵr sut i ddisgrifio'r rolau yn benodol) a hefyd yr unigolion hynny a weithiodd i gadw'r ward yn lân, a darparu bwyd a lluniaeth i gleifion. Rwyf hefyd yn estyn fy niolch i aelodau o'r tîm fferyllol a ddaeth i'm gweld.
Roedd pob aelod o staff yn gyfeillgar, yn gwrtais, ac yn gwneud popeth yn eu gallu i ofalu amdanaf i, a chleifion eraill, a'n gwneud yn gyffyrddus. Rwy'n amharod i enwi enwau gan nad wyf am bechu yn erbyn unrhyw un trwy ganu clodydd unrhyw unigolyn (gan fod pob aelod o staff yn hollol wych, ac nid wyf yn gor-ddweud), ond yr enwau rwy'n eu cofio yw nyrs Mel a'r cynorthwyydd nyrsio (credaf mai dyma yw ei rôl?) Andrew. Ond fel y dywedais, roedd pob aelod o staff yn rhagorol, ac roedd yr awyrgylch cyffredinol ar y ward yn un o bositifrwydd, cyfeillgarwch, a gofal caredig am gleifion.
Credaf fod Ward A3 yn ward ysbyty ragorol, sy'n lân, wedi'i rheoli'n effeithiol a'i staffio gyda rhai o'r aelodau staff mwyaf cydwybodol a gofalgar i mi eu cyfarfod erioed. Gallwch weld yn glir bod y staff yno yn gweld eu gwaith nid fel swydd, ond fel galwedigaeth. Roeddwn yn falch iawn o'r ffordd y caniatawyd i feddygon a nyrsys dan hyfforddiant fod ar y ward a helpu i ddarparu triniaeth dan oruchwyliaeth i gleifion. Mae'r profiad hwn yn amhrisiadwy iddynt, ac yn creu amgylchedd ysbyty deinamig a bywiog gydag wynebau ifanc cyfeillgar a chydwybodol y gallaf i, fel myfyriwr graddedig prifysgol 25 oed, uniaethu'n hawdd â nhw.
Rwy'n ei chael hi'n anodd mynegi fy niolch yn ddigonol i'r ward hon. Rwy’n ystyried yn gryf ysgrifennu at y gweinidog iechyd yng Nghynulliad Cymru, gan fod y ffordd y mae nyrsys a staff eraill yn aml yn cael eu beirniadu yn y wasg yn gamliwio amlwg o realiti gofal ar ward A3.
Gobeithio y byddwch yn trosglwyddo fy niolchgarwch i'r holl staff yn Ward A3, a gallaf eich sicrhau, pe bawn i fyth angen triniaeth ysbyty eto, y buaswn yn mynnu cael fy nhrin yn Ysbyty Athrofaol Cymru (wel, byddaf yn ôl o fewn ychydig wythnosau beth bynnag, ond rwy'n siŵr nad ydych angen i mi fanylu ar fy nghyflwr!)
Dymuniadau gorau,
Tom Walker
Hoffwn fynegi fy niolch o galon am y gofal a'r gefnogaeth ragorol a gefais yn ystod fy arhosiad yn ysbyty'r Heath, ar ôl anaf difrifol i'm troed chwith.
Cefais fy nerbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys ar 15 Tachwedd 2011, yna ymlaen i asesiad llawfeddygol, ac i uned lawfeddygol arhosiad byr, lle'r arhosais am oddeutu tridiau. Aethpwyd â mi i ward B6 yna i ward gyswllt A3, lle arhosais nes i mi gael fy rhyddhau. Yn ystod y tair wythnos a dreuliais yn yr ysbyty, yn enwedig yn ward gyswllt A3 ac yn y Clinig Trawma, cefais fy nhrin gyda lefel uchel o ofal a chymorth gan bob aelod o staff.
Hoffwn ddweud diolch arbennig iawn i'm llawfeddyg ymgynghorol Mr Anthony Perera a'i dîm, nid yn unig am ailadeiladu fy nhroed ond hefyd am y cyngor a'r gefnogaeth a roddodd Mr Perera i mi yn ystod fy apwyntiadau adsefydlu parhaus, sydd wedi fy helpu yn gorfforol ac yn seicolegol.
Gyda phroffesiynoldeb, ymroddiad a hiwmor da holl staff YAC, rwyf wedi cael fy arwain trwy'r amser anoddaf a mwyaf seicolegol heriol i mi ei gael yn fy mywyd.
Cofion cynnes
Craig Evans
Ar 21 Hydref, ffoniais i weld a oedd gwely ar gael am 6am ar gyfer y diwrnod hwnnw a chefais y cadarnhad gwych ‘Oes’. Derbyniwyd fi am 7am.
O fewn chwarter awr, aethpwyd â mi i'r ward. O hynny ymlaen, roedd popeth mor drefnus. Esboniodd Mr Matthews yr ymgynghorydd (gŵr bonheddig o'r radd flaenaf) y lawdriniaeth twll clo ar gyfer fy ysgwydd.
Ychydig yn ddiweddarach, rhoddodd meddyg benywaidd a oedd yn anaesthestydd esboniad i mi ar yr anesthetig, ac erbyn 8.30am roeddwn ar fy ffordd i gael llawdriniaeth.
Y peth nesaf rwy'n ei gofio oedd fy enw yn cael ei alw tua 11am, ac yna mynd yn ôl i'r ward. Mae'n rhaid fod bwy bynnag wnaeth y te a'r tost yn gogydd Michelin 5 seren.
Roedd nyrsys yn gofalu amdanaf yn llwyr, hyd yn oed yn rhoi blanced aer cynnes i mi.
Dywedwyd wrthyf y gallwn fod allan o'r ward i fynd adref am 2pm. Gwelais Mr Matthews, a wnaeth yn siŵr fy mod yn iawn ac esboniodd fod y llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiannus ac y gallwn adael.
Daeth nyrsys â’r holl waith papur mewn ‘bag nwyddau’. Roeddent hyd yn oed wedi gwneud trefniadau i mi gael fy ngweld gan y nyrs ardal ar y dydd Llun ac wedi trefnu ffisio yn ddiweddarach yn y mis. Roedd y tabledi yr oeddwn angen eu cymryd yno hefyd.
Felly o fynediad am 7am i ryddhau am 2pm, roedd y gwasanaeth yn ddi-fai. Roedd y trefniadau yn wych.
Llongyfarchiadau i'r GIG - a diolch yn fawr hefyd i'r Nyrsys Ardal a welodd fi mor brydlon.
Les Vye-Parminter
Y Rhath, Caerdydd
Yn ddiweddar, cefais ben-glin newydd yn Ysbyty Llandochau. Rwy’n ddinesydd hŷn iawn a hoffwn fynegi fy mharch mawr i'r holl staff ar Ward Charles Radcliffe, na allent fod wedi dangos mwy o ofal a chwrteisi imi.
O'r aelodau staff iau hyd at yr uchaf: y llawfeddyg Mr Ghandour, a'r anesthetydd, Dr Nick Grove, cefais fy nhrin â pharch, caredigrwydd a sgil.
Bellach mae ychydig dros bythefnos ers fy llawdriniaeth ac rwy'n gwella'n dda iawn. Rydyn ni'n clywed cymaint o feirniadaeth yn y wasg am ein hysbytai ac am y GIG, ond does gen i ddim byd ond canmoliaeth i Landochau.
Freda Burns
Caerdydd