Dyma ddetholiad o ddolenni i gyrff a sefydliadau sy'n berthnasol i waith y Tîm Orthopedeg.
Meincnodi yw'r broses o gymharu prosesau a data perfformiad un sefydliad â pherfformiad sefydliadau tebyg eraill a/neu yn erbyn arfer gorau cydnabyddedig.
Mae BIP Caerdydd a'r Fro yn cynnal ymarferion meincnodi rheolaidd ar draws aelod-sefydliadau'r Gynghrair Orthopedig Genedlaethol (NOA) i bennu arfer gorau ar hyd llwybr triniaeth y claf. Rydym yn gwneud hyn mewn dwy ffordd:
Mae'r meincnodi'n edrych ar lwybr y claf o'r pwynt atgyfeirio i'w ryddhau o'r ysbyty.
Mae'r adnodd gwe hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr weld y data meincnodi yr ydym yn ei gasglu a'i ddadansoddi ar draws y Sefydliadau NOA, yn ogystal â chysylltu ag astudiaethau manwl o arfer gorau cyffredinol.