Mae staff yr adran Trawma ac Orthopedig yn ddiolchgar iawn am y rhoddion hael a dderbyniwyd gan aelodau'r cyhoedd. Mae pob ceiniog a dderbyniwn yn cael ei gwario gan uwch feddygon a nyrsys yn ein hadran ar eitemau a phrosiectau a fydd o fudd i'n cleifion y tu hwnt i ddarpariaeth arferol y GIG.
Nid yw eich cefnogaeth yn cymryd lle cyllid y GIG. Yn lle hynny, mae'n gwella gwasanaethau i gleifion yn y ffyrdd a ganlyn:
- prynu offer meddygol arloesol
- darparu dodrefn newydd sbon ac eitemau eraill ar gyfer ein wardiau a'n mannau aros
- ein helpu i fuddsoddi ymhellach mewn ymchwil ac astudiaethau clinigol
- ein helpu i fuddsoddi mwy yn ein staff ymroddedig trwy ddarparu hyfforddiant mwy arbenigol.
Mae enghreifftiau o sut mae'ch rhoddion caredig wedi bod o fudd i'n cleifion yn cynnwys:
- ariannu teganau, dodrefn a gwaith celf i blant ym mannau aros y clinig
- arwyddion arbennig i gleifion ar ein wardiau sy'n caniatáu iddynt symud o gwmpas yn fwy annibynnol a diogel
- hyfforddiant ychwanegol i staff ennill sgiliau uwch i ehangu eu harbenigedd a chaniatáu iddynt helpu ein cleifion ymhellach.
Rhoi rhodd
Gallwch ddarganfod mwy am y gwahanol ffyrdd y gallwch gyfrannu ar ein gwefan Elusen Iechyd
Cronfa Trawma ac Orthopedig
Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro
Rhif cyfrif 10008292
Cod Didoli 60-70-80