Mae'r tîm bôn y benglog yng Nghaerdydd yn gweithio o Ysbyty Athrofaol Cymru. Grŵp amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n arbenigo mewn trin anhwylderau cymhleth bôn y benglog ydyn ni, ac yn eu plith:
Cynigiwn wasanaeth cynhwysfawr sy'n cynnwys clinig pwrpasol bôn y benglog, clinigau NF2 arbenigol mewn cydweithrediad â gwasanaeth NF2 Manceinion ac adsefydlu festibwlar ac wynebol yn ôl yr angen.
Darparwn driniaethau bôn penglog agored, llawdriniaeth gymhleth i'r wyneb a'r benglog gydag adluniad wedi'i addasu a'i bersonoli, a llawdriniaeth endosgopig i fôn y benglog sy'n creu archoll mor fach â phosib.
Darperir radiolawfeddygaeth stereotactig a radiotherapi stereotactig yn uniongyrchol gan y tîm gan ddefnyddio system bwrpasol ddiweddaraf un Truebeam STx yng Nghanolfan Canser Felindre.
Trafodwn achosion unigol mewn cyfarfod Tîm Amlddisgyblaethol Bôn y Benglog bob pythefnos. I wneud atgyfeiriad i'r ganolfan, cysylltwch ag un o aelodau'r tîm yn uniongyrchol neu cysylltwch â'n cydgysylltydd bôn y benglog:
Cymdeithas Brydeinig Niwroma Acwstig
Cymdeithas Brydeinig Bôn y Benglog