Is-arbenigedd yn y maes niwrolawdriniaeth yw niwrolawdriniaeth bediatrig. Mae gan yr adrannau hynny sy'n cynnig niwrolawdriniaeth bediatrig nifer o Niwrolawfeddygon sydd â diddordeb a hyfforddiant penodol mewn niwrolawdriniaeth bediatrig. Yng Nghaerdydd mae gennym dri Niwrolawfeddyg pediatrig, ond mae'r holl Niwrolawfeddygon wedi'u hyfforddi i gynnal niwrolawdriniaeth sy'n achub bywyd ar blant tra byddant ar alwad y tu allan i oriau arferol.
Is-arbenigedd acíwt yn bennaf yw niwrolawdriniaeth bediatrig, a 70-80% o'r baich gwaith heb ei drefnu. Mae prif swmp y gwaith yn gysylltiedig â hydroseffalws, trawma, tiwmorau'r ymennydd a'r asgwrn cefn, dysraffism yr asgwrn cefn ac epilepsi.
Mae gan Gaerdydd Nyrs Arbenigol Glinigol Niwrolawfeddygol bediatrig allgymorth ran-amser a Nyrs Arbenigol Glinigol Niwrolawfeddygol cleifion mewnol amser llawn.
Mr Paul Leach – Arweinydd ar gyfer Niwrolawdriniaeth bediatrig
Ysgrifennydd: Ms Anna Todd 02920 746851
Mr Chirag Patel
Ysgrifennydd: Ms Catherine Gamble 02920 744307
Mr Imran Bhatti
Ysgrifennydd: Ms Andrea James 02920743225
Ms Sarah Kvedaras - cleifion mewnol
Mr Ian Williams - allgymorth
02920 748268
Yn cefnogi Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru i ddarparu gofal o'r radd flaenaf
Elusen yw Shine sy'n darparu cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer spina bifida and hydroseffalws ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gwybodaeth i'r holl deuluoedd y mae canser plentyndod yn effeithio arnynt yn y DU ac Iwerddon.