Mae Gwasanaeth Porffyria Caerdydd yn derbyn atgyfeiriadau gan eich clinigwr. Os ydych am gael ymchwiliad i borffyria a/ neu os oes gennych berthynas sydd eisoes wedi cael diagnosis o'r cyflwr hwn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drafod sut i symud ymlaen. Mae'n hanfodol ein bod yn cael gwybod pwy yw'r perthynas yr effeithir arno (enw, dyddiad geni a'r math o borffyria).
Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth am borffyria ar gael i gleifion, a rhestrir rhai ohonynt isod.