Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth

Histopatholeg

Trwy edrych ar y ffordd y mae'r celloedd yn cael eu trefnu, sut maent wedi datblygu a sut maent yn gweithredu, mae'n bosib penderfynu a oes gan glaf glefyd, llid, canser neu dwf nad yw'n ganseraidd.

Cyflawnir hyn trwy gymryd tafelli tenau iawn o feinwe a'u rhoi ar sleidiau gwydr. Yna caiff y rhain eu lliwio gyda gwahanol liwiau, gan ganiatáu i'r gwahanol gelloedd gael eu harchwilio o dan ficrosgop.

Cytoleg

Mae hylifau'r corff yn cynnwys celloedd yn naturiol, a gellir crafu celloedd o wyneb meinweoedd hefyd. Gellir casglu'r celloedd hyn a'u trosglwyddo i sleidiau gwydr lle cânt eu lliwio a'u harchwilio o dan y microsgop am annormaleddau.

Gellir casglu llawer iawn o wybodaeth trwy asesu'r berthynas rhwng y gwahanol fathau o gelloedd a'u trefniant, a dyma sut y gellir nodi annormaleddau fel canser.

Mae patholeg gellog yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau canser yn y BIP.

Mae patholegwyr yn cyflwyno achosion patholeg gellog gan gleifion â chanser mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol lle cânt eu trafod â chlinigwyr eraill; mae'r tîm o arbenigwyr yn gweithio gyda'i gilydd i benderfynu ar gynllun triniaeth priodol neu adolygu sut mae triniaeth yn dod yn ei blaen.

Er bod cyfran fawr o waith y Labordy Patholeg Gellog yn gysylltiedig â diagnosis a prognosis canser, mae afiechydon sy'n deillio o dyfiannau anfalaen, llid ac asiantau heintus hefyd yn cael eu gwerthuso.

Dilynwch ni