Mae SilverCloud yn cynnig rhaglenni therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer pobl sy’n 16 oed ac yn hŷn, sydd â lefelau ysgafn neu gymedrol o iselder, gorbryder neu straen.
Edrychwch ar y rhestr o raglenni a dewiswch un i’w chwblhau dros gyfnod o 12 wythnos. I gael y canlyniadau gorau, dylid defnyddio’r platfform 15-20 munud y dydd, tair i bedair gwaith yr wythnos. Cewch adborth bob pythefnos gan Gefnogwr SilverCloud cymwys wrth i chi weithio eich ffordd drwy’r rhaglen.
Mae’r rhaglenni ar-lein canlynol ar gael drwy hunan-gyfeiriad. Golyga hyn y gallwch gael mynediad uniongyrchol at y rhaglenni hyn heb yr angen i weld eich Meddyg Teulu:
* Fersiwn i fyfyrwyr ar gael
+ Ar gael yn Gymraeg
Rhaid eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, neu’n byw yng Nghymru, ac nad ydych eisoes yn derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu drydyddol, megis o dan ofal seiciatrydd neu seicolegydd.