Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion am Gludwyr Hemoglobin E

Mae prawf gwaed wedi dangos eich bod yn cludo haemoglobin E. Dyma esboniad byr:

  • Mae cludwr haemoglobin E yn berson iach.
  • Ni fydd cario haemoglobin E yn eich gwanhau yn gorfforol nac yn feddyliol.
  • Gallwch chi fwyta'r hyn rydych chi ei eisiau a gwneud unrhyw fath o waith rydych chi'n ei ddewis.
  • Nid oes angen unrhyw driniaeth feddygol arnoch oherwydd eich bod yn ei gludo.

Mae haemoglobin E yn un o ystod o amrywiadau yn y gwaed y mae meddygon yn eu galw’n “anhwylderau haemoglobin”. Mae haemoglobin yn elfen o’r gwaed. Mae’n goch, ac yn achosi i’r gwaed fod yn goch. Yr enw ar y math arferol o haemoglobin yw haemoglobin A.

Mae gennych chi haemoglobin A a haemoglobin anarferol o’r enw haemoglobin E. Mae haemoglobin wedi’i gynnwys mewn celloedd gwaed coch. Gan eich bod yn cario haemoglobin E, mae gennych gelloedd coch y gwaed ychydig yn llai na phobl eraill, a mwy ohonynt. Nid yw cario haemoglobin E yn salwch, ac ni fydd byth yn troi’n salwch.

Ni fyddwch byth yn ei golli, ac ni all neb ei “ddal” oddi wrthych. Gwnaethoch etifeddu haemoglobin E gan un o’ch rhieni, a gallech ei drosglwyddo i’ch plant.

Dyna pam y’ch gelwir yn “gludwr” haemoglobin E. Mae haemoglobin E yn gyffredin ymhlith pobl sy’n hanu o Bangladesh, gogledd-ddwyrain India, Burma a De Ddwyrain Asia. Mae’n codi’n achlysurol ymhlith pobl o darddiad Twrcaidd neu’r Dwyrain Canol. Mae’n anghyffredin mewn poblogaethau eraill.

Gallai meddyg sydd ddim yn gwybod eich bod yn cario haemoglobin E feddwl eich bod yn dioddef o ddiffyg haearn oherwydd bod gennych gelloedd coch bach, a gallai ragnodi meddyginiaethau haearn. Yn y tymor hir, gallai hyn wneud mwy o ddrwg nag o les i chi.

Mae angen prawf gwaed arbennig ar gludwyr haemoglobin E (prawf haearn serwm neu serwm fferitin) i wneud diagnosis o ddiffyg haearn. Dim ond os yw’r prawf hwn yn dangos eich bod yn brin o haearn y dylech gymryd meddyginiaethau haearn.

Gallai fod yn bwysig i iechyd eich plant. Weithiau mae gan gludwr haemoglobin E blentyn ag anemia etifeddol difrifol. Mae’r risg yn fach, ond mae’n bwysig gwybod amdano oherwydd gellir ei osgoi.

Dim ond os yw ei bartner yn cario anhwylder haemoglobin y gall person sy’n cario haemoglobin E gael plentyn ag anemia etifeddol.

Dywedwch wrth eich partner eich bod yn cario haemoglobin E, a gofynnwch iddynt gael prawf gwaed ar gyfer anhwylderau haemoglobin. Yn ddelfrydol dylai eich partner gael y prawf cyn dechrau’r beichiogrwydd.

Gall meddyg teulu drefnu hynny. Os nad yw eich partner yn cario anhwylder haemoglobin, nid oes unrhyw risg y gallai eich babi gael anemia etifeddol difrifol.

Trefnwch i siarad â’ch meddyg teulu. Gofynnwch am apwyntiad ar unwaith i drafod eich sefyllfa gydag arbenigwr lleol. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych eisoes wedi dechrau’r beichiogrwydd. Gallwch hefyd gysylltu â’r gwasanaeth cwnsela yn uniongyrchol.

Os oes gennych chi blant yn barod, neu os oes gennych chi frodyr neu chwiorydd, efallai y byddan nhw hefyd yn cario haemoglobin E. Dylech eu hannog i ofyn i’w meddyg teulu am brawf gwaed ar gyfer anhwylderau haemoglobin. Gallwch ofyn i’r gwasanaeth cwnsela am ragor o wybodaeth am gario haemoglobin E.

Gellir cael gwybodaeth am wasanaethau cwnsela ar gyfer anhwylderau haemoglobin:

Dilynwch ni